Toglo gwelededd dewislen symudol

Grand Cymorth Bwyd Brys 2025 / 2026 - Rownd 1

Grant Cymorth Bwyd Uniongyrchol gynt.

1. Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais?

Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rheini ag amcanion elusennol a sefydliadau nid er elw preifat.

2. Meini prawf y gronfa

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Abertawe.

Diben y gronfa yw cefnogi nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd drwy gryfhau mentrau bwyd cymunedol sydd eisoes yn bodoli yn Abertawe, gan gynnwys rhoi ffocws ar weithgarwch sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd. Mae'r grant hwn yn darparu cyllid refeniw a chyfalaf.

Mae amodau a thelerau'r grant yn nodi'r canlynol:

Gellir defnyddio cyllid refeniw i ddatblygu neu gryfhau prosiectau fel archfarchnadoedd cymdeithasol, caffis cymunedol, clybiau cinio a dosbarthiadau coginio cymunedol. Er enghraifft ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Prynu bwyd a nwyddau hanfodol o ansawdd da (mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw hyn yn cynnwys aelodaeth FareShare).
  • Hybu gallu sefydliadau bwyd cymunedol i ddiwallu anghenion eu cwsmeriaid, gan gynnwys anghenion amrywiol eu cymunedau.
  • Darparu ar gyfer y rhai hynny sy'n anodd eu cyrraedd drwy gymorth arbenigol megis gwasanaeth allgymorth neu sicrhau y darperir bwyd sy'n bodloni gofynion amrywiol y gymuned.
  • Hyfforddiant i wirfoddolwyr (e.e. cymwysterau trin bwyd / hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes).
  • Hyfforddiant i staff a chwsmeriaid sy'n cefnogi lledaenu gwybodaeth a sgiliau bwyd (e.e. dosbarthiadau coginio, gweithdai tyfu bwyd yn y gymuned, bwyd iach ar gyllideb).
  • Datblygu hybiau cymunedol sy'n cydleoli amrywiaeth o wasanaethau cymorth megis lles, cyngor ar arian a thai, wedi'u hadeiladu o gwmpas darpariaethau bwyd cymunedol megis banciau bwyd, caffis a phantriïau cymunedol.
  • Gorbenion.
  • Treuliau i wirfoddolwyr.

Dylai cyllid cyfalaf gefnogi sefydliadau i gael gafael ar gyflenwadau bwyd ychwanegol, eu storio a'u dosbarthu, gan gynnwys bwyd dros ben o safon, er mwyn hybu eu gallu i ddarparu bwyd maethlon o safon i'w cwsmeriaid. Gellir ei ddefnyddio hefyd i brynu cyfarpar sy'n cefnogi mentrau sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd, megis datblygu mentrau tyfu a dosbarthu bwyd lleol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain.

Er enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Silffoedd.
  • Cynwysyddion storio bwyd.
  • Nwyddau gwynion, e.e. poptai, oergelloedd neu rewgelloedd.
  • Cyfarpar cegin / coginio / piclo.
  • Cyfarpr tyfu cymunedol, e.e. offer.
  • Cyfarpar ar gyfer datblygu mentrau dosbarthu.
  • Celfi (os yw'n angenrheidiol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi bwyd yn unig).
  • Cyfarpar TG angenrheidiol - e.e. er mwyn archebu bwyd neu ddarparu cymorth arbenigol i fynd i'r afael â thlodi bwyd (rhaid bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y cyfarpar a mynd i'r afael â thlodi bwyd, yn hytrach na diweddaru cyfarpar swyddfa cyffredinol).

Mae croeso i aelodau Bwyd Abertawe (partneriaeth bwyd lleol) wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd a diffyg diogeled bwyd, gan gynnwys prosiectau sy'n cysylltu â phrosiectau cymunedol lleol eraill.

Dylai prosiectau ystyried sut maen nhw'n bwriadu darparu cymorth yn y ffordd fwyaf urddasol bosib, gan leihau stigma tlodi. Ewch i https://wcpp.org.uk/publication/lifting-the-lid/ i gael rhagor o wybodaeth am stigma tlodi.

Felly, byddem yn croesawu ceisiadau am gyllid sy'n mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â thlodi bwyd ac ansicrwydd ynghylch bwyd, gan gynnwys mynd i'r afael â'r gwir achosion.

3. Sut i gyflwyno cais

Llenwch y ffurflen gais a chyflwynwch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol sy'n ofynnol.

Gall peidio â chyflwyno'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.

4. Lefelau ariannu

Mae £64,000 o gyllid refeniw a £42,615 o gyllid cyfalaf ar gael i Abertawe o rownd 1 Grant Cymorth Bwyd Brys 2025 / 2026. Syler, bydd ail rownd o gyllid refeniw yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Sylwer, ni ddylech wario unrhyw gyllid cyfalaf a ddyfernir ar eitemau refeniw ac i'r gwrthwyneb, ac os bydd newid yn eich gwariant arfaethedig, rhaid i chi gysylltu â ni ymlaen llaw i gael cymeradwyaeth.

Gan ystyried nifer y ceisiadau rydym yn rhagweld y byddwn yn eu derbyn, byddem yn awgrymu bod ceisiadau ar gyfer hyd at £1,500 o refeniw a £1,750 o gyfalaf.

E-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno. Os hoffech wneud cais am fwy na'r symiau awgrymedig uchod, rhaid i chi gysylltu â ni cyn cyflwyno eich cais.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2026.

5. Dyddiadau cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Sul 29 Mehefin 2025, 11.59pm.

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried.

Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf uchod gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor a'r trydydd sector.

Mae penderfyniad y panel yn derfynol; ni chaiff apeliadau eu hystyried.

6. Meini prawf cyflwyno cais ac asesu

Caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf isod a bydd angen i ymgeiswyr arddangos y canlynol:

  • Statws sefydliadol / amcanion elusennol.
  • Bydd y cyllid yn ymdrin â meini prawf y gronfa ac yn diwallu anghenion a nodwyd.
  • Tystiolaeth o angen.
  • Hygyrchedd a chyfle cyfartal.
  • Dadansoddiad ariannol llawn o'r cyllid y cyflwynir cais amdano.
  • Gwerith am arian.

Dim ond ceisiadau gan grwpiau sy'n meddu ar y dystiolaeth ganlynol ac sy'n ei chyflwyno a ystyrir:

  • Dogfennau neu gyfansoddiad llywodraethu cyfredol.
  • Cyfrif banc busnes priodol.
  • Cyfrifon archwilliedig - neu os yw'n grŵp newydd, cyfriflenni banc cyfredol.
  • Polisïau Diogelu priodol - Diogelwch Plant, Oedolyn Agored i Niwed, anabledd a / neu unrhyw ofynion diogelu priodol eraill.

Cysylltwch â Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rhestr uchod. E-bost: scvs@scvs.org.uk neu rhiff ffôn: 01792 544400

Grand Cymorth Bwyd Brys 2025 / 2026 - Rownd 1 ffurflen gais

Gwneud cais ar-lein ar gyfer y Grant Cymorth Bwyd Brys
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Mehefin 2025