Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion

Os yw eich plentyn wedi'i wahardd neu mae'n wynebu cael ei wahardd, yna gall yr wybodaeth ganlynol fod o gymorth i chi.

Dim ond pennaeth (neu berson sy'n gweithredu ar ran y pennaeth yn ei absenoldeb) sy'n gwneud penderfyniad i wahardd disgybl am gyfnod penodol neu'n barhaol a dylai'r penderfyniad gael ei wneud dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Mewn ymateb i achosion difrifol o dorri polisi disgyblu'r ysgol
  • Petai caniatau i'r disgybl barhau i fod yn yr ysgol, y byddai niwed difrifol i addysg neu les y disgybl neu bobl eraill yn yr ysgol.

 

Beth sy'n digwydd os yw fy mhlentyn wedi cael ei wahardd?

Pan fydd y penderfyniad wedi'i wneud i wahardd disgybl, dylai'r 'person priodol', fel arfer rhiant neu ofalwr, gael ei hysbysu ar unwaith, yn ddelfrydol dros y ffon neu drwy ffordd resymol arall, ac yna llythyr o fewn un diwrnod ysgol.

Os yw'r disgybl yn 11 oed neu'n hyn, dylai'r ysgol anfon llythyr ato hefyd.  Fel arfer, gwahoddir rhieni a disgyblion i gyfarfod yn yr ysgol er mwyn trafod unrhyw faterion ynghylch y gwahardd.

Bydd cyfle hefyd i gwrdd a Phwyllgor Disgyblu Disgyblion y corff llywodraethu i drafod y gwahardd.  Mae rol y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion yn cynnwys adolygu'r defnydd o wahardd mewn ysgolion.

Gwahardd 1 - 5 diwrnod mewn tymor

Gall rhieni ofyn i gwrdd a'r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion.  Rhaid i'r pwyllgor gwrdd ond ni allant ganiatau i'r plentyn ddychwelyd i'r ysgol.

Gwaharddiad 6 - 15 diwrnod mewn tymor

Gall rhieni ofyn i gwrdd a'r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion.  Ni ddylai'r pwyllgor gwrdd cyn y 6ed diwrnod ysgol ac erbyn yr hanner canfed diwrnod ysgol fan bellaf ar ol diwrnod cyntaf y gwahardd, os bydd y rhiant/disgybl yn gofyn am gyfarfod.

Gwahardd 16 diwrnod neu'n fwy mewn tymor

Ni ddylai'r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion gwrdd cyn y 6ed diwrnod ysgol ac erbyn y 15fed diwrnod ysgol fan bellaf ar ol diwrnod cyntaf y gwahardd a rhaid i'r rhiant/disgybl gael gwahoddiad i gyflwyno'i farn.

Gwahardd parhaol

Ni ddylai'r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion gwrdd cyn y 6ed diwrnod ysgol ac erbyn y 15fed diwrnod ysgol fan bellaf ar ol diwrnod cyntaf y gwahardd a rhaid i'r rhiant/disgybl gael gwahoddiad i gyflwyno'i farn.

 

Panel apel annibynnol

Pan fydd Pwyllgor Disgyblu Disgyblion yn cadarnhau penderfyniad y Pennaeth i wahardd disgybl yn barhaol, bydd gan y disgybl a'i riant hawl i apelio i Banel Apeliadau Annibynnol.

Mae'r arweiniad canlynol ar gael i rieni a disgyblion sy'n ystyried Apel Annibynnol:

Gwybodaeth a chyngor

Os hoffech gyngor ynghylch y broses wahardd, cyswlltiwch Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.

Mae gwybodaeth hefyd ar gael yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru 'Ydych chi'n cael eich gwahardd o'r ysgol?'.

Close Dewis iaith