Pa waith ydy'r tîm Craffu'n ei wneud ar hyn o bryd?
Mae nifer o ffyrdd o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Craffu yn gweithio arno nawr ac am y flwyddyn i ddod.
Rydym yn rheoli cylchlythyr misol i'ch helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith diweddaraf. Gallwch danysgrifio i dderbyn y diweddariad drwy e-bost. Rydym hefyd yn ysgrifennu blog am ein gwaith.
Cyhoeddir agenda Pwyllgor y Rhaglen Graffu cyn pob cyfarfod. Mae'r rhain yn cynnwys adroddiad cynnydd ar yr holl weithgareddau craffu ac amserlen cyfarfodydd yn y dyfodol.
Gwnaethom hefyd lunio rhaglen waith flynyddol. Mae hwn yn nodi'r pynciau a drafodir gan y Cynghorwyr Craffu bob blwyddyn.
Rhaglen waith Craffu gytunedig 2022-2023
Panel ymchwilio newydd
Craffu manwl â therfyn amser - chwe mis
1. Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cylch gorchwyl/cwestiynau allweddol i'w cytuno gan y panel, ond gallent ganolbwyntio ar effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau; edrych ar ffactorau y tu ôl i ymddygiad gwrthgymdeithasol cynyddol; pwerau ac adnoddau; adrodd ac ymateb; ymagweddau cyfredol; arfer da mewn mannau eraill; rôl aelodau etholedig etc
Pwnc wrth gefn/ amgen
2. Cam-drin domestig
Cylch gorchwyl/cwestiynau allweddol i'w cytuno - ond byddai'n ymwneud ag ansawdd y gefnogaeth i ddioddefwyr a'r hyn y gellid ei wneud yn well, cymryd tystiolaeth fewnol ac allanol.
Mynd ar drywydd ymholiadau blaenorol
1. Caffael
Gweithforaru Newydd
Craffu bras/ cyfarfodydd untro
1. Diogelwch ffyrdd
Gan alluogi holi manwl a thrafodaethau ar fannau problemus; gweithio i wella diogelwch; mesurau ataliol; dulliau rheoli cyflymder - defnyddio arwyddion/twmpathau/camerâu; terfynau 20mya newydd arfaethedig; cyflwr ffyrdd; diogelwch beicwyr a cherddwyr; gweithio mewn partneriaeth, etc.
2. Cydgynhyrchu
Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth ar ddatblygiad cyd-gynhyrchu yn y cyngor a chynnydd, gan helpu i wella ymwneud ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth, partneriaid a'r cyhoedd wrth lunio a chyflwyno gwasanaethau ac wrth wneud penderfyniadau, etc.
3. Dinas Iach
Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth i archwilio'r Bartneriaeth Dinas Iach, gweithgareddau a llwyddiannau allweddol, gwaith mewn perthynas â hyrwyddo iechyd yn enwedig gweithgareddau corfforol, gan gynnwys darparu chwaraeon awyr a gored a gweithgareddau a chyfleoedd i bobl ifanc, etc.
Cyswllt cwsmeriaid
Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth ar brofiad defnyddwyr wrth gysylltu â'r cyngor/cael mynediad at wasanaethau boed hynny dros y ffôn neu ar-lein/drwy ddulliau digidol; darpariaeth ar gyfer cyswllt all-lein ac ar-lein; effeithiolrwydd Canolfan Gyswllt y cyngor; camau gweithredu cyfredol i wella cynhwysiad/mynediad digidol; ansawdd y wefan etc.
Rhestr wrth gefn
Teithio Llesol
Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth ar gynlluniau a chanlyniadau Teithio Llesol y cyngor; datblygiadau cyfredol ac yn y dyfodol; gwelliannau i ymgynghoriad cymunedol; pa mor dda yr ydym yn bodloni rhwymedigaethau Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru; defnydd - effaith ar niferoedd sy'n beicio/cerdded; a materion perthnasol
Hiliaeth mewn ysgolion
Gan alluogi holi manwl a thrafodaeth ar hyd a lled y mater; sut mae ysgolion yn delio â digwyddiadau hiliol a ddrwgdybir; adrodd am drefniadau, cyfraddau etc.
Paneli perfformiad
Perfformiad manwl parhaus/ monitro a herio ariannol
1. Gwella Gwasanaethau a Chyllid
Misol
2. Addysg
Misol
3. Gwasanaethau i Oedolion
Bob 6 wythnos
4. Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Bob 6 wythnos
5. Datblygu ac Adfywio
Bob deufis
6. Newid yn yr Hinsawdd a Natur
Bob deufis.
Materion penodol i'w hystyried gan gynnwys o fewn cynlluniau gwaith ehangach y panel:
- Gwella Gwasanaethau a Chyllid
- Cynllun Corfforaethol
- Craffu ar gynigion y gyllideb
- Rheoli perfformiad yn gyffredinol
- Safon Ansawdd Tai Cymru
- Y Gwasanaethau Cynllunio
- Gwastraff a Glanhau Strydoedd
- Ailgylchu gwastraff busnes
- Addysg
- Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/ amcanion/ ymrwymiadau polisi corfforaethol
- Arolygiad dilynol ar ôl arolygiad o'r adran Addysg gan Estyn
- Addysg o Safon (AoS)/ Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu
- Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Y cwricwlwm newydd i ysgolion
- Dysgu yn yr Awyr Agored mewn ysgolion cynradd
- Darpariaeth cerddoriaeth mewn ysgolion
- Gwasanaethau i Oedolion
- Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/ amcanion/ ymrwymiadau polisi corfforaethol
- Y berthynas rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
- Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/ amcanion/ ymrwymiadau polisi corfforaethol
- Llety â chymorth i bobl ifanc
- Fframwaith Sicrhau Ansawdd
- Datblygiad ac Adfywio
- Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/ amcanion/ ymrwymiadau polisi corfforaethol
- Prosiectau'r Fargen Ddinesig sy'n benodol i Abertawe
- Manwerthu/ datblygiad yng nghanol y ddinas
- Tyrrau tai newydd (e.e. llety myfyrwyr)
- Adeiladau Hanesyddol/Rhestredig
- Datblygiad ac isadeiledd/gwasanaethau ategol SA1
- Newid yn yr Hinsawdd a Natur
- Cyflawniad yn erbyn blaenoriaethau/amcanion/ymrwymiadau polisi corfforaethol
- Cynnydd yn erbyn Sero Net 2030
- Y defnydd o lyffosad
- Llygredd aer
- Mabwysiadu cerbydau gwyrdd a darpariaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan i'r cyhoedd/mewn mannau preswyl
- Llifogydd/ Rheoli Perygl Llifogydd Lleol
Materion ar gyfer Pwyllgor y Rhaglen Graffu
Rheolaeth gyffredinol y rhaglen waith; trafodaeth am amrywiaeth eang o faterion gwasanaeth
- Adroddiadau blynyddol penodol
- Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc
- Diogelu Corfforaethol
- Cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol - Trechu Tlodi
- Sesiwn/ Sesiynau Holi ac Ateb gyda'r Arweinydd
- 'Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd' - Cynllun Adfer/Trawsnewid
- Ymrwymiadau polisi/ Blaenoriaethau'r cyngor
- Sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelodau eraill o'r Cabinet (materion i'w trafod)
- Archifau/Hwb Cymunedol
- Tipio anghyfreithlon
- Digartrefedd
- Tai Amlfeddiannaeth
- Parciau
- Tyfu Cymunedol
- Grwpiau cymunedol, ymgysylltu a datblygiad
- Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
- Trosedd ac Anrhefn (Diogelwch Cymunedol)
- Edrych ar yr hyn a wnaed gan Weithgorau Blaenorol
- Gwasanaethau Bysus
- Y Gweithlu (gan gynnwys trafodaeth ar Strategaeth Datblygu'r Gweithlu)
Craffu ar y Cyd/Rhanbarthol
- Partneriaeth (Gwella Addysg/Ysgolion - Grŵp Craffu ar y cyd Cynghorwyr)
- Y Fargen Ddinesig (Datblygiad/Adfywio - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe)
- Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru (Cynllunio defnydd tir; Trafnidiaeth ranbarthol; Lles Economaidd - Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu)