Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Gwasanaeth dosbarthu i'r cartref y llyfrgell

Mae gwasanaeth dosbarthu i'r cartref ein llyfrgelloedd ar gael i breswylwyr nad ydynt yn gallu mynd i'w llyfrgell leol oherwydd rhesymau iechyd neu symudedd.

Mae hyn yn cynnwys preswylwyr nad ydynt yn gallu cario llyfrau gartref a hefyd breswylwyr nad oes ganddynt deulu na ffrindiau sy'n gallu casglu llyfrau o lyfrgell leol ar eu rhan.

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn bodloni'r meini prawf canlynol, cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ddosbarthu llyfrau i'ch drws yn seiliedig ar eich hoffterau darllen eich hunan. Gallwn ddosbarthu i:

  • y rheini sy'n hŷn ac yn fregus 
  • y rheini ag anawsterau corfforol
  • y rheini ag anableddau synhwyraidd, yn enwedig nam ar y golwg dwys 
  • y rheini ag anawsterau dysgu difrifol 
  • y rheini â phroblemau iechyd meddwl penodol sy'n eu gwneud yn anoddach iddynt adael eu cartref 
  • y rheini sy'n dioddef o salwch tymor hir
  • y rheini sydd wedi'u hynysu'n ddiwylliannol yn y cartref
  • gofalwyr, gan gynnwys plant a phobl ifanc, nad ydynt yn gallu gadael y cartref am unrhyw gyfnod amser 

Os ydych yn bodloni'r meini prawf uchod ac mae gennych blant neu rydych yn gofalu am blant hefyd, rhowch wybod i ni a gallwn ddosbarthu llyfrau sy'n addas at eu hoed os oes angen.

Gall preswylwyr ddefnyddio'r gwasanaeth ar sail dros dro neu barhaol, gan ddibynnu ar eu hanghenion.

Gwasanaethau cymunedol y llyfrgell

Enw
Gwasanaethau cymunedol y llyfrgell
Rhif ffôn
01792 516773
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mehefin 2021