Toglo gwelededd dewislen symudol

Eich gwastraff a'r gyfraith

Yn ôl y gyfraith, o 6 Ebrill 2024 mae'n ofynnol i bob gweithle, gan gynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu o'u gwastraff cyffredinol.

Mae hyn er mwyn gwella ansawdd a swm y gwastraff masnachol y gellir ei ailgylchu sy'n cael ei gasglu a'i wahanu ledled Cymru.

Dyletswydd Gofal

Os ydych yn cynhyrchu, yn mewnforio, yn cario, yn cadw, yn trin neu'n cael gwared ar wastraff, mae gennych gyfrifoldebau cyfreithiol am y gwastraff hwn. Gelwir hyn eich dyletswydd gofal.

Mae'n bwysig eich bod yn deall y Ddyletswydd Gofal a'r gyfraith newydd i sicrhau eich bod yn cyflawni'ch rhwymedigaethau cyfreithiol. Darganfyddwch ragor am y ddyletswydd gofal gwastraff i sefydliadau ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru..

Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle

Chi sy'n gyfrifol am yr holl wastraff yn y fangre rydych yn ei meddiannu. Mae'r rhain yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan eich staff, ymwelwyr a chontractwyr neu werthwyr sy'n gweithio yn y fangre. Rhaid i bob gweithle wahanu'r deunyddiau y gellir eu hailgylchu hyn oddi wrth ei wastraff cyffredinol: 

  • gwastraff bwyd a gynhyrchir gan fangreoedd sy'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos
  • papur a cherdyn
  • cardbord
  • gwydr
  • metel
  • plastig
  • cartonau a phecynnu tebyg eraill (y cyfeirir atynt o hyn allan ar y cyd fel 'cartonau')
  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu (WEEE)
  • tecstilau heb eu gwerthu

Sut y gallwch gydymffurfio â'ch dyletswydd gofal a'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw adolygu'r holl wastraff rydych yn ei gynhyrchu. Dylech wirio pa wasanaethau rydym yn eu darparu ar y tudalennau casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gyfer busnesau a chasgliadau ailgylchu ar gyfer busnesau Dylech adolygu'r cynwysyddion rydych yn casglu'r gwastraff ynddynt a siarad â'r Gwasanaeth Gwastraff Masnachol i drafod pa wasanaeth sydd ei angen arnoch. Unwaith y bydd eich contract newydd ar waith, dylech wneud y canlynol:

  • Darllen amodau a thelerau llawn eich contract. Mae ein hamodau a thelerau contract gwastraff ac ailgylchu masnachol enghreifftiol ar gael ar ein gwefan ond dylech hefyd wirio am unrhyw fanylion penodol yn eich contract eich hun.
  • Rhoi'r holl wastraff / ailgylchu yn y cynhwysydd cywir. Gall methu â gwneud hynny arwain at beidio â chasglu gwastraff/ailgylchu a gallech wynebu taliadau ychwanegol am gasglu neu ddirwy.
  • Gwneud yn siŵr bod eich bin/biniau wedi'u cloi.
  • Peidiwch â llenwi'ch bin yn ormodol na gadael unrhyw wastraff ychwanegol wrth ochr neu ar ben eich bin. Os ydych yn gwneud hyn, rydych yn rhoi gwastraff allan nad ydych wedi talu amdano ac ni fydd yn cael ei gasglu.
  • Peidiwch â gadael gwastraff ychwanegol, gan gynnwys cardbord, ar y stryd y tu hwnt i'r diwrnod a'r amser casglu. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel tipio anghyfreithlon a gallech dderbyn dirwy.
  • Peidiwch â rhoi gwydr wedi torri neu wrthrychau miniog yn y sachau.
  • Os ydym yn methu casgliad neu os oes yna broblem gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib fel ein bod ni'n gallu gwneud trefniadau i'w gasglu.
  • Talu eich anfoneb i osgoi rhoi terfyn ar eich casgliadau.

Os ydych yn gwsmer i'n Gwasanaeth Gwastraff Masnachol ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth newydd, cysylltwch â'r Tîm Gwastraff Masnachol. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth a'r arweiniad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y dudalen casgliadau gwastraff ar wahân ar gyfer gweithleoedd ar eu gwefan. 

Close Dewis iaith