Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithredwyr Traeth Cymeradwy

Dim ond darparwyr gweithgareddau a gymeradwywyd gan Gyngor Abertawe all weithredu ym Mae Caswell.

Surfing at Caswell
Mae'r rheini a gymeradwywyd yn aelodau sydd wedi llofnodi Siarter Gweithredwyr Gweithgareddau Dŵr ac Arfordir Bae Caswell ac yn ei dilyn. Mae'r siarter yn ymrwymiad y bydd yr holl weithredwyr traeth sy'n defnyddio Bae Caswell yn cadw at gyfres o amodau a fydd yn sicrhau defnydd cynaliadwy o'r bae, bod gweithgareddau'n cael eu cymeradwyo a'u cyflwyno'n ddiogel a bod yr amgylchedd o'i gwmpas a defnyddwyr eraill o'r traeth yn cael eu cydnabod.

Mae Gweithredwyr Traeth Cymeradwy:

  • yn hawdd eu nodi
  • yn cyflogi staff cymwys a chanddynt wiriad GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
  • wedi'u hyswirio'n ddigonol
  • wedi'u hachredu gyda'u corff llywodraethu
  • yn defnyddio cyfarpar priodol a diogel
  • yn rhoi gweithdrefnau iechyd a diogelwch ar waith
  • yn cario darpariaeth cymorth cyntaf
  • mae'r holl hyfforddwyr syrffio cymeradwy sy'n arwain ysgolion yn cael bathodyn ID â llun, sy'n dangos dyddiad dilysrwydd eu hawlen. Os nad ydych chi'n siŵr, mae gennych hawl i ofyn i'w weld.

Gweithredwyr Traeth Cymeradwy ym Mae Caswell:

Surf GSA (Academi Syrffio Gŵyr)
Ffôn: 07903 392282
Web: www.surfgsd.com (Yn agor ffenestr newydd)

Surfability UK
Ffôn: 07517 230427
Web: www.surfabilityukcic.org (Yn agor ffenestr newydd) 

Ysgol Syrffio Progress
Ffôn: 01792 410825 / 07876 712106
Web: www.swanseasurfing.com/ (Yn agor ffenestr newydd)

Gower Adventures
Ffôn: 01792 851182
Web: www.goweradventures.co.uk/ (Yn agor ffenestr newydd)

Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr
Ffôn: 01792 390481
Web: www.goweractivitycentres.co.uk/ (Yn agor ffenestr newydd)

Ffederasiwn Syrffio Cymru
Ffôn: 07702 568398
Gwefan: www.wsf.wales (Yn agor ffenestr newydd)

Clwb Achubwyr Bywyd y Mwmbwls
Gwefan: www.mumbleslifeguardclub.org (Yn agor ffenestr newydd)

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn weithredwr traeth a ganiateir ym Mae Caswell, neu os hoffech ragor o wybodaeth am Siarter Gweithredwyr Gweithgareddau Dŵr ac Arfordirol Bae Caswell, e-bostiwch y tîm Gosod Parciau ynGosod.Parciau@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith