Toglo gwelededd dewislen symudol

Hebryngwyr croesi ysgol

Mae ein hebryngwyr yn helpu plant ac oedolion i groesi'r ffyrdd yn fwy diogel ar eu ffordd i'r ysgol neu ar eu ffordd adref.

Yn ôl y gyfraith mae ganddynt y pŵer i stopio traffig er mwyn helpu rhywun i groesi'r ffordd. Mae'r rhan fwyaf o hebryngwyr yn gweithio ar rannau prysur o ffyrdd lle mae plant yn croesi i gyrraedd eu hysgol. Bydd hebryngywr yno bob dydd yn ystod y tymor.

Hyd yn oed pan ddarperir Hebryngwyr Croesi Ysgol, mae rhieni'n parhau i fod yn gyfrifol am ddiogelwch eu plant.

Os nad ydych yn stopio caiff yr heddlu eu hysbysu amdanoch. Ymysg y cosbau posib mae dirwy hyd at £1000, tri phwynt cosb neu eich diarddel rhag gyrru.

Cefnogir ein gwasanaeth hebryngwyr croesi ysgol gan Admiral Group (Yn agor ffenestr newydd).

Cwestiynau cyffredin am batrolau croesi ysgolion

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am batrolau croesi ysgolion.
Close Dewis iaith