Toglo gwelededd dewislen symudol

Help mewn Argyfwng gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Nos, ar Benwythnosau a Gwyliau Banc

Mae'r Gweithiwr Cydeithasol Brys y Tu Allan i Oriau Abertawe yn eich cyswllt brys Abertawe ar gyfer plant a theuluoedd, oedolion, y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (AMHP) y tu allan i oriau.

Pwy mae'r Gweithiwr Cymdeithasol y Tu Allan i Oriau yn eu helpu?

Mae'r Gweithiwr Cymdeithasol y Tu Allan i Oriau gallu ymdrin ag:

  • Ymholiadau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant
  • Sefyllfaoedd brys lle mae teulu wedi chwalu
  • Dyletswyddau gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy
  • Dyletswyddau oedolyn priodol ar gyfer plant a phobl ifanc yn y ddalfa lle na ellir dod o hyd i oedolyn i gyflawni'r rôl hon
  • Newidiadau brys i ofal cartref i oedolion
  • Ceisiadau am leoliadau ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn
  • Ymholiadau diogelu oedolion; cyngor brys ar faterion gwaith cymdeithasol.

Ni allant fynd i'r afael â materion nad ydynt yn faterion brys a all aros tan oriau'r dydd, fel llety brys i oedolion neu negeseuon i staff yn ystod y dydd. Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol cyn gynted â phosib.

Ni all y Gweithiwr Cymdeithasol Brys y Tu Allan i Oriau ddechrau pecyn cymorth i oedolion y tu allan i oriau gwaith, ond gall wneud atgyfeiriad i Wasanaethau Cymdeithasol yn ystod oriau agor os yw hyn yn fater brys.

Ni all y gwasanaeth hwn ddelio â digartrefedd i oedolion. Cysylltwch â'r opsiynau tai neu cysylltwch y tu allan i oriau ar 01792 636595

Sut ydw i'n cael help?

Gallwch gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y dydd yn ystod eu horiau agor, sef 9.00am - 5.00pm, dydd Llun i ddydd Iau a 9.00am - 4.30pm ar ddydd Gwener - Gwelwch Cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Fel arall, mae'r Gweithiwr Cymdeithasol y Tu Allan i Oriau ar gael y tu allan i'r amserau hyn.

Mae nifer cyfyngedig o weithwyr cymdeithasol ar gael i ateb eich galwad:

  • Mae dau weithiwr cymdeithasol ar gael rhwng 5.00pm ac 1.00am ar benwythnosau a gwyliau banc, ac mae un gweithwiwr cymdeithasol.
  • ac un gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy ar gael o 1.00am i 8.30am; felly dim ond ymholiadau brys y gellir mynd i'r afael â nhw.

 

Dyma rai rhifau eraill y gallech chi eu ffonio mewn argyfwng:

Heddlu (materion brys)

101

Heddlu (materion nad ydynt yn brys)

101

Cyngor meddygol

111

Cyngor iechyd meddwl

111 (opsiwn 2)

Materion y cyngor gan gynnwys atgyweiriadau tai, parcio

01792 636000 (os ydych yn ffonio y tu allan i oriau, gwrandewch ar yr opsiynau priodol)

Cyngor Digartrefedd i oedolion

01792 636595

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Medi 2025