Toglo gwelededd dewislen symudol

Henebion

Ceir 122 o henebion o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe ar hyn o bryd.

Defnyddir y term heneb ar gyfer amrywiaeth eang iawn o safleoedd archeolegol. Gall rhai enghreifftiau fod wedi'u claddu'n gyfan gwbl dan y ddaear, a thrwy gloddiad archeolegol yn unig y gellir dod o hyd iddynt. Mae eraill yn llawer mwy gweladwy, er enghraifft adfeilion trawiadol cestyll ac abatai canoloesol adnabyddus.

Henebion a chaniatâd cynllunio

Os yw rhywun yn dymuno gwneud gwaith y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer ar safle heneb gofrestredig, bydd angen cael cydsyniad heneb gofrestredig yn ogystal â chaniatâd cynllunio. Nid yw caniatâd cynllunio ar ei ben ei hun yn ddigonol i awdurdodi'r gwaith.

Cadw sy'n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig. Mae'n bwysig sylwi y gellir rhoi cydsyniad ar gyfer cynigion manwl yn unig. Yn wahanol i ganiatâd cynllunio, nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer rhoi cydsyniad amlinellol.

Gellir cyflwyno ceisiadau am ganiatâd cynllunio Y porth cynllunio (Yn agor ffenestr newydd)

Further information regarding scheduled monument consent can be found by contacting Cadw (Yn agor ffenestr newydd)

Lleoliadau henebion

Gellir gweld lleoliadau a ffiniau holl henebion Cymru yn MapDataCymru MapDataCymru (llyw.cymru). Wrth glicio ar y pinnau yn y map, bydd hyn yn agor gwybodaeth am gofnodion Cadw.

Mae rhagor o wybodaeth i'w chael ar wefan Cadw yn cadw.llyw.cymru.

Close Dewis iaith