Ymunwch â grŵp cynyddol o helwyr hanes sy'n defnyddio ap llwybr treftadaeth gwych newydd
Mae cannoedd o ddefnyddwyr ffonau clyfar yn defnyddio llwybrau cerdded a chilffyrdd lleol i archwilio hanes, diwylliant a straeon ar garreg eu drws yn Abertawe.

Mae ap am ddim Llwybrau Tawe yn cynnig ffeithiau, mapiau rhyngweithiol a theithiau sain am Gwm Tawe Isaf yn Gymraeg ac yn Saesneg.
A nawr mae llwybr newydd wedi cael ei ychwanegu at y chwe llwybr a oedd eisoes ar gael sy'n cynnig nodweddion ychwanegol fel hygyrchedd defnyddwyr a chyngor diogelwch, yn ogystal â gwybodaeth am Gastell Casllwchwr, Castell Oxwich, Castell Weble a Chastell Pennard.
Lawrlwythwyd yr ap ffôn clyfar am ddim dros 700 o weithiau hyd yma, a disgwylir i'r nifer gynyddu dros yr wythnosau nesaf gan fod yr ap yn cynnig y cyfle perffaith i bobl leol ddarganfod hanes ar garreg eu drws yn ystod gwyliau hir yr ysgol.
Datblygwyd yr ap sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys sain, gan dîm adfywio Cyngor Abertawe ac fe'i hariannwyd gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor, "Mae'n wych clywed bod cynifer o bobl wedi lawrlwytho'r ap a'u bod yn defnyddio'r llwybrau treftadaeth ar garreg eu drws.
"Bydd ein tîm adfywio'n ychwanegu rhagor o lwybrau a nodweddion ychwanegol dros y misoedd nesaf, felly bydd yr ap yn ddefnyddiol iawn i unrhyw un sydd am gael diwrnod allan diddorol."
"Roedd Cwm Tawe Isaf wrth wraidd diwydiant copr Abertawe a helpodd i ledaenu'r gair am Abertawe ar draws y byd. Roedd yr ardal yn rhan hanfodol o'r chwyldro diwydiannol a luniodd y wlad gyfan.
"Diolch i'r ap, bydd pobl yn dysgu bod hanes Abertawe'n rhan o hanes Prydain, ac mae'n wych ein bod ni'n rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r hanes hwnnw yn y ffordd fwyaf modern."
Yr ychwanegiad diweddaraf at y casgliad yw'r daith sain llwybr mordwyo Tawe ar gyfer Mordaith ar fad Copper Jack. Bwriedir i'r daith sain gael ei chwarae pan fyddwch ar fad cymunedol poblogaidd Copper Jack wrth iddo deithio ar hyd yr afon. Mae rhagor o wybodaeth am fordeithiau ar fad Copper Jack yma:
Mae'r chwe llwybr arall sydd i'w cael yn yr ap yn cynnwys:
- Gwaith Copr yr Hafod-Morfa
- Y Garreg Wen
- Parc Llewelyn
- Camlas Tawe yng Nghlydach
- Parc Treforys
- Cwm Tawe Isaf
Mae nodweddion yr ap yn cynnwys golygfeydd lloeren a golygfeydd stryd, pinnau cyfeirbwynt, delweddau o ansawdd uchel, fframiau cerdyn post hunlun, gosodiadau hygyrchedd ac ymarferoldeb all-lein.
Mae ap Llwybrau Tawe ar gael drwy iTunes Store a Google Play.
Rhagor:www.abertawe.gov.uk/aps