Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyfforddiant achubwyr bywyd

Ydych chi'n achubwr bywyd cymwys ac mae angen i chi fynychu hyfforddiant bob mis neu ail-gymhwyso?

Mae Dinas a Sir Abertawe a Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe'n gallu darparu sesiynau hyfforddiant parhaus er mwyn i chi gynnal a diweddaru eich cymhwysedd ym mhob agwedd ar 9fed argraffiad o Gymhwyster Cenedlaethol Achub Bywyd y Pwll yr RLSS. (Sesiynau 1-6)

Nos Iau cyntaf pob mis (sesiwn dwy awr), sesiwn sych 8.00pm tan 9.00pm, a sesiwn wlyb 9.00pm tan 10.00pm

Cost y sesiwn yw: £7.50 fesul person (cost lawn)
                               £6.50 fesul person (Pris consesiynol)
                              £5.50 fesul person (PTL Abertawe)

Gwisgwch ddillad cyffyrddus ar gyfer gwaith sych, a dewch a siorts, crys T a chwiban ar gyfer gwaith yn y dŵr.

Rhaid dangos tystiolaeth o hunaniaeth â llun i'r hyfforddwr yn y sesiwn gyntaf ac mae'n rhaid i chi ddarparu copi union gywir o'ch taflen asesu (y daflen binc) o'r cwrs CABP neu dystiolaeth o gymhwyster gan yr RLSS (Tystysgrif). Bydd y tîm Diogelwch Dŵr yn cymryd manylion yn ystod y sesiwn ac yn darparu a chadw tystiolaeth ysgrifenedig ac electronig ar hyfforddiant parhaus, gan eich cynorthwyo i gyflawni'r 20 awr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn ail-ddilysu'ch cymhwyster o fewn y cyfnod o ddwy flynedd.

I gadw lle ar y sesiynau hyn, cysylltwch â Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe drwy ffonio (01792) 513513