Oherwydd problemau staffio, rydym yn canslo'r holl sesiynau hyfforddiant arfaethedig i lywodraethwyr ar hyn o bryd. Os ydych wedi trefnu i ddod i un o'n cyrsiau, cewch eich hysbysu am unrhyw newidiadau pellach.

Rhaglen hyfforddi a datblygu llywodraethwyr
Mae hyfforddiant yn rhan annatod o ddatblygiad pob llywodraethwr ac mae hwn yn cael ei drefnu a'i gyflwyno trwy raglen hyfforddi flynyddol a hwylusir gan staff arbenigol y gelwir arnynt fel bo'n briodol oherwydd eu harbenigedd penodol.
Gwneud cais am rhaglen hyfforddiGall llywodraethwyr ddisgwyl cael:
- Deunyddiau cymorth ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), a'r awdurdod lleol
- Cyflwyniad a hyfforddiant arall i helpu llywodraethwyr i gyflawni eu dyletswyddau
- Cyngor a chymorth hwylus parod gan ein Huned Ysgolion a Llywodraethwyr, Cymdeithas Llywodraethwyr Abertawe.
- Help gan bennaeth eich ysgol, staff eraill a'ch cydlywodraethwyr
- Cymorth uniongyrchol gan staff arbenigol awdurdod lleol sy'n helpu llywodraethwyr i fynd i'r afael â materion megis personél, cyllid, iechyd a diogelwch, rheoli eiddo a'r gyfraith.
- Copïau tymhorol o'n cyhoeddiad, 'Newyddion Llywodraethwyr'.
Gall yr holl lywodraethwyr ysgol yn rhanbarth Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Caerfyrddin, Powys, Ceredigion a Sir Benfro gael mynediad, yn rhad ac am ddim, i unrhyw gwrs hyfforddi a gynhelir gan unrhyw un o'r awdurdodau yn rhanbarth EWR).