Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rhaglen hyfforddi a datblygu llywodraethwyr

Mae hyfforddiant yn rhan annatod o ddatblygiad pob llywodraethwr ac mae hwn yn cael ei drefnu a'i gyflwyno trwy raglen hyfforddi flynyddol a hwylusir gan staff arbenigol y gelwir arnynt fel bo'n briodol oherwydd eu harbenigedd penodol.

Gall llywodraethwyr ddisgwyl cael:

  • Deunyddiau cymorth ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), a'r awdurdod lleol 
  • Cyflwyniad a hyfforddiant arall i helpu llywodraethwyr i gyflawni eu dyletswyddau 
  • Cyngor a chymorth hwylus parod gan ein Huned Ysgolion a Llywodraethwyr, Cymdeithas Llywodraethwyr Abertawe. 
  • Help gan bennaeth eich ysgol, staff eraill a'ch cydlywodraethwyr 
  • Cymorth uniongyrchol gan staff arbenigol awdurdod lleol sy'n helpu llywodraethwyr i fynd i'r afael â materion megis personél, cyllid, iechyd a diogelwch, rheoli eiddo a'r gyfraith. 
  • Copïau tymhorol o'n cyhoeddiad, 'Newyddion Llywodraethwyr'.

Gall yr holl lywodraethwyr ysgol yn rhanbarth Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Caerfyrddin, Powys, Ceredigion a Sir Benfro gael mynediad, yn rhad ac am ddim, i unrhyw gwrs hyfforddi a gynhelir gan unrhyw un o'r awdurdodau yn rhanbarth ERW.

Tîm ysgol a llywodraethwyr hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddiant pwrpasol ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau a chwynion. Os hoffech chi archebu sesiwn yn eich ysgol neu ar bwnc penodol, cysylltwch â ni: Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr

Gwneud cais am rhaglen hyfforddi Gwneud cais am rhaglen hyfforddi

Close Dewis iaith