Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysebu a hyrwyddo

Mae gennym bortffolio cynhwysfawr o lwyfannau hysbysebu, o hysbysebu dan do i hysbysebu awyr agored.

  • Hysbysebwch ar gerbydau ein cerbydlu - marchnata symudol ar y ffordd bob dydd
  • Hysbysebu ar y wefan - gweler ein hystadegau misol
  • Hysbysebu ar slipiau talu gweithwyr
  • Hysbysebu gyda phosteri mawr ac ar sgriniau yn yr orsaf fysus, lle ceir mwy na 250,000 o ymwelwyr bob wythnos
  • Hysbysebu yn nhoiledau'r orsaf fysus - targedu'n effeithiol
  • Sgrîn ddigwyddiadau Theatr y Grand yng ngŵydd 30,000 o fodurwyr bob dydd
  • Hysbysebion wedi'u lapio ar bileri mewn meysydd parcio aml-lawr

Mae nifer o gyfleoedd i noddi ein digwyddiadau arobryn yn Abertawe, gan gynnwys Sioe Awyr Cymru, sy'n denu cynulleidfa o fwy na 200,000 o bobl. Ceir pecynnau sy'n addas ar gyfer pob cyllideb, a gellir eu teilwra i fodloni eich galwadau a'ch gofynion.

I gael mwy o wybodaeth am noddi digwyddiadau, hysbysebu neu stondinau masnach, ewch i Commercial@swansea.gov.uk

Gorsaf fysus Abertawe

Mae gorsaf fysus Abertawe yn ganolbwynt amlwg o weithgarwch yng nghanol y ddinas ac mae'n denu miloedd o gymudwyr, siopwyr ac ymwelwyr bob dydd.

Marchnata symudol ar gerbydlu'r cyngor

Beth am wneud eich hysbyseb yn un symudol gyda'r ffordd unigryw a deniadol hon o greu ymwybyddiaeth o'ch brand?

Hysbysebu ar slipiau talu

Cyfle i hysbysebu'n uniongyrchol i fwy na 18,100 o weithwyr Cyngor Abertawe ar slipiau talu papur a slipiau talu electronig.

Hysbysebu ar wefan abertawe.gov.uk

Mae 20% o le ar gael ar wefan y cyngor i osod baneri, gan ganiatáu i hyd at bum hysbysebwr gael 4% o'r lle hysbysebu bob dydd.

Hysbysebu ar bileri mewn meysydd parci

Mae hysbysebu mewn meysydd parcio yn cynnig ffordd unigryw ac effeithiol o hysbysebu sydd wedi helpu ers blynyddoedd lawer i werthu mwy o gynnyrch, brandiau a/neu wasanaethau.

Hysbysebu ar sgrîn fawr Sgwâr y Castell

Mae'r sgrîn fawr yn Sgwâr y Castell mewn lleoliad amlwg yng nghanol y ddinas.

Hysbysebu gyda Theatr y Grand

Mae Theatr y Grand yn cynnal mwy na 500 o berfformiadau drwy gydol y flwyddyn, o opera i bantomeim, yn ei phrif awditoriwm ac yn stiwdio Adain y Celfyddyau.
Close Dewis iaith