Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad Preifatrwydd - Crwner EM ar gyfer ardal Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â'r prosesu barnwrol y mae swyddfa'r Crwner yn ymgymryd ag ef.

Ar gyfer prosesu anfarnwrol megis staffio, personél, arweinyddiaeth, lles neu unrhyw swyddogaeth AD arall i'r graddau y mae'n ymwneud â staff cyflogedig, bydd y crwner yn dilyn hysbysiad preifatrwydd a pholisïau'r awdurdod cynnal, sef Dinas a Sir Abertawe, ac fel a fanylir yma www.abertawe.gov.uk/hysbysiadpreifatrwydd 

 

Manylion hunaniaeth a chyswllt y Rheolwr Data

Unwyd Gwasanaeth y Crwner ar gyfer ardaloedd daearyddol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gan Orchymyn Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder (Newid Ardaloedd Crwneriaid) 2013. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly'n berthnasol i'r gwasanaeth barnwrol a ddarperir gan Swyddfa'r Crwner i ddinasyddion Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Y Rheolwr Data:

Crwner EM, Mr Colin Phillips, yw'r rheolwr data arweiniol ar gyfer Gwasanaeth y Crwner ar gyfer Abertawe a Castell-nedd Port Talbot.

Dyma'n cyfeiriad post:

Crwner EM
Cyngor Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE

Fel corff cyhoeddus sy'n dal data am bobl fyw, mae'n rhaid i ni gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â thrin data. Mae'r Panel Diogelu Data Barnwrol yn gweithredu fel goruchwylydd ar gyfer gweithgareddau diogelu data crwneriaid.

 

Categorïau o'r data personol sydd gennym

'Prosesu' yw'r enw a roddir ar gael, cofnodi a thrin gwybodaeth bersonol'.  

Rydym yn prosesu data personol megis manylion personol, manylion teulu, ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol, manylion ariannol a manylion cyflogaeth ac addysg. Mae'n gyffredin cofnodi gwybodaeth am berthynas agosaf, tystion a gweithwyr proffesiynol y gallant fod wedi ymwneud â'r person marw.

Rydym hefyd yn prosesu dosbarthiadau data sensitif ynghylch troseddau a throseddau honedig, manylion iechyd corfforol neu feddwl, tarddiad hiliol neu ethnig, credoau crefyddol neu eraill, tueddfryd rhywiol ac achosion, canlyniadau a dedfrydau troseddol.

Mae gwasanaeth y Crwner yn prosesu data fel rhan o'i weithgareddau barnwrol. Mae hyn yn cynnwys pan fydd aelod o staff, swyddog yr heddlu neu ymchwilydd penodedig arall yn ymgymryd â gweithgareddau sy'n ymwneud â phwerau a chyfrifoldebau statudol y Crwner.

 

Sut mae Gwasanaeth y Crwner yn defnyddio data personol

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Crwner ymchwilio i bob marwolaeth sy'n dreisgar neu'n annaturiol, lle nad yw achos y farwolaeth yn hysbys, a lle bo person yn marw pan fydd yn y ddalfa neu'n cael ei gadw'n gaeth gan y wladwriaeth.

Cesglir a phrosesir data personol i'n galluogi i weinyddu Swyddfa'r Crwner, ymchwilio i farwolaethau a chyflawni'n dyletswyddau statudol dan y fframweithiau deddfwriaethol amrywiol.

Yn ogystal, rydym yn casglu data personol am y rhesymau canlynol:

  • Cyflwyno gwasanaethau
  • Dadansoddi ystadegau ac adrodd amdanynt
  • Diogelu (atal marwolaethau yn y dyfodol)

 

Pobl rydym yn rhannu data â nhw

Oni bai y cymhwysir cyfyngiad, bydd cwestau'n hygyrch i'r cyhoedd ac felly, rhennir data ag unrhyw un sy'n mynd i'r achos, gan gynnwys y wasg.

Wrth gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol, gall Crwner EM, yn ôl ei ddisgresiwn neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, rannu gwybodaeth â'r prif sefydliadau/unigolion canlynol:

  • Cynghorau Dinas a Sir Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
  • Y Prif Grwner
  • Heddlu De Cymru
  • Patholegwyr a gweithwyr proffesiynol meddygol eraill sy'n gweithio i Grwner EM
  • Trefnwyr Angladdau yn yr ardal
  • Crwneriaid lleol - yn benodol lle caiff achosion eu trosglwyddo iddynt neu eu derbyn oddi wrthynt
  • Ymddiriedolaethau Ysbytai'r GIG a chyrff clinigol/allgymorth eraill yn ardal de Cymru
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Gwasanaeth Tân ac Achub ardal de Cymru
  • Heddlu Trafnidiaeth Prydain
  • Gwasanaethau ambiwlans de Cymru
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Y teuluoedd yr effeithir arnynt
  • Staff y Swyddfa Gofrestru yn ardal de Cymru
  • Mynwentydd ac amlosgfeydd yn ardal de Cymru

 

Ffynhonnell Data Personol

Daw'r mwyafrif helaeth o ddata personol rydym yn ei dderbyn oddi wrth Heddlu De Cymru ac ymddiriedolaethau ysbytai'r GIG yn ardal de Cymru. Rydym fodd bynnag hefyd yn derbyn data oddi wrth y sefydliadau a'r unigolion a restrir uchod yn ystod ein gweithgareddau a'n hymchwiliadau.

 

Am ba hyd rydym yn cadw eich data

Ni chedwir data am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol, a bydd y Crwner yn dilyn canllawiau cyfreithiol ynghylch pa mor hir y dylid cadw gwybodaeth cyn iddi gael ei dinistrio'n ddiogel.

Mae'r amserlen ar gyfer cadw data yn wahanol gan ddibynnu ar y math o ddata sydd dan sylw. Ar hyn o bryd, mae'r cyfnodau cadw fel a ganlyn:

  • Caiff materion sy'n cael eu cyfeirio at Grwner EM sy'n farwolaethau oherwydd achosion naturiol eu cadw am 15 mlynedd, ac ar ôl hynny caiff y data ei ddileu neu ei archifo.
  • Caiff achosion sy'n arwain at gwest eu cadw am gyfnod amhenodol

 

Trosglwyddo y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Nid ydym yn rhannu gwybodaeth bersonol y tu hwnt i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn rheolaidd. Efallai bydd amgylchiadau prin sy'n ymwneud â marwolaeth dinesydd tramor neu farwolaeth dinesydd Prydeinig dramor. Yn yr amgylchiadau hynny, efallai bydd angen rhannu swm cyfyngedig o ddata yn ôl yr angen er mwyn cyflawni swyddogaethau barnwrol Swyddfa'r Crwner.

Mae'r systemau rheoli achosion electronig a ddefnyddir gan wasanaeth y Crwneriaid yn dal data'n ddiogel yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

 

Eich Hawliau Data

Mae gan unigolyn nifer o hawliau mewn perthynas â data amdanynt a sut caiff ei ddefnyddio gan gorff cyhoeddus. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys:

1. Yr hawl i gael gwybod
Mae'n rhaid i ni fod yn gwbl dryloyw gyda chi wrth ddarparu gwybodaeth 'mewn ffordd gryno, dryloyw, ddeallus a hygyrch' ac mewn iaith glir'. Ein hysbysiad preifatrwydd yw un o'r ffyrdd rydym yn ceisio rhoi gwybod i chi sut mae eich data'n cael ei drin.

2. Yr hawl i gael mynediad
Mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol.

3.  Yr hawl i gael cywiriad
Mae gennych yr hawl heb oedi gormodol i ofyn am gywiriad neu ddiweddariad i ddata personol sy'n anghywir.

4. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
Gallwch ofyn i atal prosesu pan fydd cywirdeb y data personol yn cael ei herio. Golyga hyn y gallwn storio'r data personol yn unig ac ni chawn ei brosesu ymhellach ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig.

5. Yr hawl i wrthwynebu
Gallwch wrthwynebu rhai mathau o brosesu megis marchnata uniongyrchol. Mae'r hawl i wrthwynebu hefyd yn berthnasol i fathau eraill o brosesu megis prosesu ar gyfer ymchwil wyddonol, hanesyddol neu at ddibenion ystadegol (er y gellir parhau i brosesu am resymau sydd o fudd i'r cyhoedd).

6. Hawliau o ran gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd
Mae'r gyfraith yn eich diogelu yn erbyn y risg o wneud penderfyniad a allai fod yn niweidiol heb ymyriad dynol. Nid yw Gwasanaeth y Crwner yn gweithredu unrhyw system gwneud penderfyniadau awtomataidd.

7. Yr hawl i gludadwyedd data
Pan fydd data personol yn cael ei brosesu ar sail caniatâd a thrwy ddull awtomataidd, mae gennych yr hawl i'ch data personol gael ei drosglwyddo'n uniongyrchol o un rheolwr data i un arall pan fydd hyn yn dechnegol bosib.

8. Yr hawl i ddileu neu 'yr hawl i gael eich anghofio'
Gallwch ofyn i'ch data personol gael ei ddileu gan gynnwys:
(1) pan na fydd y data personol yn angenrheidiol mwyach mewn perthynas â'r dibenion y'i casglwyd ar eu cyfer
(ii) nid ydych yn rhoi eich caniatâd mwyach, neu
(iii) rydych yn gwrthwynebu'r prosesu.

 

Cyfyngiadau i Hawliau Data

Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn darparu eithriadau y mae ei heffaith yn cyfyngu ar hawliau data pan fydd y data'n cael ei brosesu fel rhan o weithgarwch barnwrol neu'n ei ddatgymhwyso'n llwyr.

Serch hynny, bydd Swyddfa'r Crwner yn ystyried ceisiadau fesul achos.

 

Yr hawl i gwyno am drin data

Mae Swyddfa'r Crwner yn pennu safonau uchel iawn ar gyfer casglu data personol a'i ddefnyddio'n briodol. Felly rydym yn ymdrin ag unrhyw gwynion am drin data o ddifri'. Rydym yn eich annog i dynnu ein sylw at ddefnydd annheg o ddata, lle mae'n gamarweiniol neu'n amhriodol ac rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ar gyfer gwella.

 

Datrysiad anffurfiol

I ddechrau, gofynnwn i chi geisio datrys materion trin data'n uniongyrchol gyda Swyddfa'r Crwner. Rydym yn ymroddedig i drin data'n briodol ac rydym yn hyderus y gallwn ddatrys y rhan fwyaf o faterion yn anffurfiol.

 

Datrysiad ffurfiol

Os oes gennych unrhyw bryderon am sut proseswyd eich data personol gan Swyddfa'r Crwner wrth iddi gyflawni swyddogaethau barnwrol, gallwch gysylltu â'r Panel Diogelu Data Barnwrol. Gellir cysylltu â'r panel drwy Swyddog Preifatrwydd Data'r Swyddfa Farnwrol yn y cyfeiriad canlynol:

11th Floor Thomas Moore Building, Royal Courts of Justice, London WC2A 2LL

Close Dewis iaith