Toglo gwelededd dewislen symudol

Gŵyl Jazz yn dychwelyd gyda rhestr wych yn 2025

Cynhelir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe o 4-7 Medi 2025, gan gyflwyno pedwar diwrnod o gerddoriaeth fyw anhygoel yn Ardal Forol y ddinas.

jazz festival 2025

Trefnir yr ŵyl gan Gyngor Abertawe ac unwaith eto bydd yn llenwi'r ddinas â jazz o'r radd flaenaf, gan ddathlu cerddoriaeth, diwylliant a chymuned.

Bydd yr ŵyl yn dechrau nos Iau 4 Medi gyda sioe arbennig gan Pete Long, Simon Spillett a'r Jazz Scurriers yn Cu Mumbles.

O ddydd Gwener tan ddydd Sul, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n cyflwyno rhaglen ddeinamig, gan gynnwys artistiaid uchel eu bri fel pedwarawd Paul Booth; Triple H Horns gyda Mo Pleasure, Kedma Macias a Wayne Hernandez; London Django Collective; a band mawr Power of Gower.

Mae Mo Pleasure yn enwog am fod yn feistr ar sawl offeryn a bu'n gyfarwyddwr cerddorol Earth, Wind & Fire gynt, yn ogystal â chydweithio ag eiconau fel Ray Charles, Michael Jackson a Roberta Flack.

Bydd triawd Joe Webb ymhlith y perfformwyr eraill, ar ôl ennill bri mawr am gyd-blethu hen elfennau â rhai newydd, gan gyfareddu cynulleidfaoedd bob amser. Cafodd Joe Webb ei eni a'i fagu yng Nghastell-nedd cyn symud i Lundain yn 2013 lle mae wedi sefydlu ei hun ymhlith sêr roc byd jazz, gan gyfuno ceinder jazz traddodiadol ag ysbryd beiddgar cerddoriaeth Brydeinig boblogaidd y 90au ac ansawdd cyfoethog ei wreiddiau Cymreig.

Bydd yr ŵyl yn gorffen gyda sioe deyrnged nodedig, The Wonder of Stevie, gan ddathlu cerddoriaeth Stevie Wonder.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, Robert Francis-Davies, "Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe'n enghraifft berffaith o'r ffordd y mae diwylliant a chreadigrwydd yn parhau i ffynnu yn ein dinas. Mae'n dod â phobl leol dalentog a sêr rhyngwladol ynghyd, gan sbarduno'r glannau a chanol y ddinas drwy ysbryd cyffrous jazz.

"Rydym yn falch o gefnogi digwyddiadau fel hyn sy'n difyrru pobl yn ogystal â chyfrannu at fri cynyddol Abertawe fel cyrchfan diwylliannol."

Ymysg uchafbwyntiau'r rhaglen yn 2025 yw dychweliad y mordeithiau jazz ar y Copper Jack: dyma gyfle unigryw i glywed jazz byw ar fad eiconig Abertawe wrth iddo hwylio ar hyd afon Tawe. Mae'r perfformiadau hyn yn cynnig ffordd wirioneddol unigryw o fwynhau'r gerddoriaeth mewn awyrgylch cartrefol.

Mae'r rhaglen grwydro'n dychwelyd hefyd, gan gyflwyno mwy na 30 o sioeau am ddim mewn lleoliadau, tafarndai a chaffis yng nghanol y ddinas. Mae'r rhan gymunedol hon o'r ŵyl yn cyflwyno jazz i'r strydoedd, gan ddangos perfformwyr sydd wrthi'n ennill eu plwyf a ffefrynnau lleol mewn fformat hygyrch a chroesawgar.

Drwy gyflwyno cymysgedd o sioeau blaenllaw y mae angen tocyn ar eu cyfer, perfformiadau cymunedol am ddim a phrofiadau unigryw fel y mordeithiau jazz, mae'r ŵyl yn cynnig rhywbeth at ddant pawb, o hen lawiau i newydd-ddyfodiaid chwilfrydig i fyd jazz.

Mae tocynnau a phecynnau VIP ar gael nawr. Mae'r rhaglen lawn a manylion ynghylch cadw lle ar gael ar-lein drwy fynd i croesobaeabertawe.com.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Awst 2025