Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Seren y panto, Kev Johns, yn cael rhyddid y ddinas

Dyfarnwyd Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i un o hoelion wyth y panto yn Abertawe sef Kevin Johns MBE.

kev johns freedom

Anrhydeddwyd Mr Johns am ei waith elusennol ac am fod yn llysgennad dros y ddinas  mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas ar 8 Rhagfyr.

Mae Mr Johns yn dilyn Catherine Zeta Jones, un o gewri'r byd rygbi, Alun Wyn Jones a nifer o bobl eraill sydd wedi cael yr anrhydedd ar hyd y blynyddoedd.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Er ei fod yn sylw'r cyhoedd yn aml, mae 'na lawer hefyd y mae Kevin yn ei wneud y tu ôl i'r llenni i gefnogi pobl mewn angen a dyna un o'r rhesymau pam ei fod yn haeddu'r clod hwn.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Dyma 30ain flwyddyn Kevin mewn panto felly mae'n briodol ei fod yn derbyn Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas eleni cyn iddo ymddangos fel Nanny Penny yn Beauty and the Beast yn Theatr y Grand."

Er bod Mr Johns fwy na thebyg yn fwyaf adnabyddus am ei brif rannau ym mhanto Theatr y Grand, mae hefyd wedi chwarae prif rannau gyda Chwmni Theatr Cymru a Chwmni Theatr Fleullen. Mae e' hefyd i'w weld mewn gemau yn stadiwm Swansea.com pan fydd yr Elyrch yn chwarae ac mae'n ddarlledwr adnabyddus.

Cafodd ei gyfarwyddo hefyd gan Michael Sheen yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o The Passion, gan ymddangos fel meistr y seremonïau y Swper Olaf.

Fel cefnogwr llawer o elusennau lleol, mae Mr Johns yn llywydd neu'n noddwr elusennau Abertawe gan gynnwys Cwmni Theatr Rising Stars, Côr Meibion Abertawe a Ffrindiau Stepping Stones.

Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i elusen yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2010.