Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Kooth

Mae Kooth yn cynnig sesiynau cwnsela un i un dienw gyda chwnselwyr hyfforddedig a chymwysedig llawn ac ymarferwyr lles emosiynol.

Kooth - eich cymuned les ar-lein

Yn ogystal â tidyMinds mae hefyd wasanaeth cwnsela a chefnogaeth rhithwir newydd i bobl ifanc yn ein rhanbarth o'r enw Kooth-  kooth.com  

Bydd plant a phobl ifanc sy'n byw yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot yn gallu defnyddio gwasanaeth cwnsela digidol a chymorth iechyd meddwl yn ddienw.

Bydd y gwasanaeth sydd wedi'i achredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, a ddyluniwyd fel cymuned wedi'i diogelu'n llawn a'i chymedroli ymlaen llaw, yn cynnig sesiynau cwnsela un i un dienw gyda chwnselwyr hyfforddedig a chymwysedig llawn ac ymarferwyr lles emosiynol.

Ar ôl mewngofnodi, gall defnyddwyr gyrchu byrddau neges ac ymweld â llyfrgell o gynnwys arddull cylchgrawn hunangymorth a grëwyd gan eu cyfoedion ac arbenigwyr iechyd meddwl.

Mae sesiynau cwnsela yn rhedeg 365 niwrnod y flwyddyn, o ganol dydd i 10.00pm yn ystod yr wythnos, ac rhwng 6.00pm a 10.00pm ar benwythnosau, a gellir eu harchebu ymlaen llaw neu gael mynediad atynt fel sgyrsiau galw heibio, yn seiliedig ar destun.

Does dim trothwyon ar gyfer cefnogaeth a dim rhestrau aros.

Enw
Kooth
Gwe
https://kooth.com