Toglo gwelededd dewislen symudol

Merch ysgol o Sgeti'n creu'r Cerdyn Nadolig buddugol ar gyfer yr Arglwydd Faer

Mae disgybl o Ysgol Gynradd Parklands yn dathlu ar ôl i'w dyluniad gael ei ddewis i ymddangos ar Gerdyn Nadolig swyddogol Arglwydd Faer Abertawe.

lord mayor xmas card comp winner 2022

Roedd dyluniad buddugol Lilly, disgybl blwyddyn 5, yn un o'r chwe dyluniad ar restr fer Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day, wedi iddo gynnal cystadleuaeth i ddylunio'r cerdyn ar gyfer disgyblion o ysgolion cynradd Sgeti a Parklands.

Meddai Lilly am ennill y gystadleuaeth, "Mae hyn yn newyddion gwych. Roeddwn i mor gyffrous i glywed fy mod i wedi ennill y gystadleuaeth o blith cynifer o rai eraill a oedd wedi creu cerdyn.

"Roeddwn i am ddangos Abertawe fel lle gobeithiol yn ystod y gaeaf a chyfleu pa mor hyfryd yw Abertawe dros y Nadolig.

"Mae'n fraint mawr bod fy ngherdyn wedi cael ei ddewis fel y dyluniad buddugol. Rwy'n dwlu ar arlunio ac rwy'n hoffi ffyrdd creadigol o adrodd straeon.

"Rwy'n hapus iawn bod fy neges o obaith ar gyfer y Nadolig yn gallu cael ei rhannu gyda phobl yn fy nhref enedigol, Abertawe."

Bydd dyluniad Lilly yn ymddangos yn awr ar gerdyn Nadolig swyddogol Arglwydd Faer Abertawe, sy'n cael ei anfon at gynrychiolwyr y ddinas ac i ŵyr a gwragedd pwysig o gwmpas y byd.