Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr Arglwydd Faer yn helpu i ddathlu llwyddiant pencampwyr pŵl

Roedd Arglwydd Faer Abertawe, Mike Day, wrth law i helpu tîm o chwaraewyr pŵl o'r radd flaenaf i ddathlu eu llwyddiant mewn pencampwriaeth.

lord mayor pool champs

Gwahoddwyd Tîm Pŵl Anabledd Dysgu Cymru o Abertawe i Barlwr yr Arglwydd Faer i ddathlu eu llwyddiant ar ôl iddynt ennill Pencampwriaethau Blackball y Byd yn Abri, Ffrainc yn gynharach y mis hwn.

Roedd bron 50 o wledydd yn cystadlu am yr anrhydedd, ond y tîm o Gymru, sy'n cwrdd  yn MENCAP Friendship House yn Abertawe, oedd yn fuddugol ar ôl 10 niwrnod cyffrous o gystadlu.

Meddai'r Cynghorydd Day, "Mae gan Abertawe gynifer o bobl ddawnus mewn sawl gwahanol faes, ond mae ennill Pencampwriaeth y Byd yn rhagorol! Rydyn ni'n falch iawn o'r tîm ac yn eu llongyfarch am gynrychioli Cymru a rhoi Abertawe ar lwyfan y byd."

Meddai rheolwr y tîm, Stephen Partridge, "Roedd ennill pencampwriaeth pŵl y byd yn wirioneddol gyffrous, doedden ni ddim yn gallu credu'r peth. Rydym yn grŵp agos iawn ac yn hapus i gystadlu yn erbyn unrhyw un, ond roedd mynd i Ffrainc a dychwelyd gyda'r tlws a'r teitl yn arbennig iawn.

"Hoffwn ddiolch i'r Arglwydd Faer am gydnabod ein cyflawniad a hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar ydym hefyd am yr holl gefnogaeth rydym wedi'i chael gan gynifer o bobl, sydd wedi'n helpu i lwyddo."