Toglo gwelededd dewislen symudol

Loterïau a rafflau

Os yw'ch sefydliad yn trefnu loteri neu raffl, bydd angen tystysgrif cofrestru arnoch gennym ni.

Os ydych yn cynnal loteri neu raffl, mae'n rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn.

  • Dylai pob tocyn rydych yn ei werthu gostio'r un peth.  Nid oes uchafswm pris ar gyfer tocyn.
  • Yr uchafswm blynyddol y gall loteri ei godi trwy werthu tocynnau yw £250,000.  Os ydych yn meddwl y gall eich loteri fynd dros y swm hwn, dylech ymgynghori â'r Comisiwn Hapchwarae.
  • Ni all yr un wobr unigol fod yn werth mwy na £25,000. Gall gwobrau fod yn ariannol neu'n anariannol, h.y. arian parod, sieciau neu eitemau.
  • Mae'n RHAID defnyddio o leiaf 20% o elw'r loteri at ddibenion y gymdeithas.  
  • Caniateir cario gwobrau ymlaen rhwng loterïau lle mae pob loteri yr effeithir arni'n loteri cymdeithas fach a hyrwyddir gan yr un gymdeithas, a'r uchafswm gwobr yw £25,000. Mae'n rhaid i bob tocyn yn y loteri gostio'r un peth ac mae'n rhaid talu ffi'r tocyn i'r gymdeithas (h.y. mae'n rhaid i'r gymdeithas gymryd taliad) cyn y caniateir cymryd rhan. 
  • Cewch roi 'rhith-docynnau' sy'n destun yr un gofynion â thocyn papur.
  • Caiff unrhyw un dros 16 oed werthu tocynnau.  Caiff unrhyw un dros 16 oed eu prynu.

Beth mae angen ei nodi ar docyn loteri?

  • Enw'r gymdeithas hyrwyddo.
  • Pris y tocyn.
  • Enw a chyfeiriad aelod y gymdeithas y dynodir bod ganddo gyfrifoldeb yn y gymdeithas dros hyrwyddo loterïau bach.
  • Os oes rheolwr loteri allanol, enw a chyfeiriad y rheolwr loteri allanol y dynodir bod ganddo gyfrifoldeb dros hyrwyddo'r loteri.
  • Dyddiad y loteri.

Cofnodion a ffurflenni

Mae'n rhaid i hyrwyddwyr loteri gynnal cofnodion ysgrifenedig o unrhyw docyn sy'n cael ei ddychwelyd heb ei werthu am flwyddyn o ddyddiad y loteri. Caniateir i'r loteri arolygu cofnodion y loteri at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â'r loteri. 

Dylech gyflwyno ffurflenni i'r cyngor o fewn tri mis ar ôl y loteri fan bellaf. Dylech nodi'r swm a godwyd, faint a dynnwyd ar gyfer gwobrau a faint a dynnwyd i dalu costau.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk.