Toglo gwelededd dewislen symudol

Cannoedd o fabanod yn elwa o'r cynnig cewynnau golchadwy

Mae bachgen ifanc o Fforest-fach, Steffan Roberts, a'i fam, Eleanor, yn helpu i arwain y ffordd at Abertawe wyrddach ac arbed arian gyda chewynnau golchadwy smart yn hytrach na rhai tafladwy.

Reusable nappy steffan

Mae bachgen ifanc o Fforest-fach, Steffan Roberts, a'i fam, Eleanor, yn helpu i arwain y ffordd at Abertawe wyrddach ac arbed arian gyda chewynnau golchadwy smart yn hytrach na rhai tafladwy.

Maent wedi manteisio ar gynllun hirsefydlog Cyngor Abertawe sy'n cynnig ad-daliad o £100 i deuluoedd sy'n byw yn Abertawe ac sydd eisiau newid o gewynnau tafladwy i rywbeth gwell ar gyfer eu babanod a'r amgylchedd.

Yn ddiweddar, mae'r cynllun poblogaidd wedi derbyn dros 1,000 o geisiadau a fydd wedi arwain at arbed cannoedd o dunelli o wastraff cewynnau tafladwy o safleoedd tirlenwi.

Bydd plentyn yn defnyddio tua 5,000 o gewynnau tafladwy cyn hyfforddiant poti - sef cyfanswm o 156 o sachau du'r flwyddyn.

Trwy newid i gewynnau golchadwy bydd rhieni'n dargyfeirio tunelli o wastraff o safleoedd tirlenwi ac yn arbed hyd at £500 y flwyddyn ar gostau cewynnau tafladwy yn y broses.

Mae gan rieni gyfle i hawlio hyd at £100 tuag at gostau prynu cewynnau golchadwy er mwyn annog rhieni i newid eu dewis. Mae'r cynllun, sy'n un o'r rhai mwyaf hael o'i fath, ar gael i bob teulu sy'n disgwyl plant yn Abertawe neu sydd eisoes â babi mewn cewynnau.

Mae'r babi Steffan wedi bod yn gwisgo cewynnau golchadwy ers misoedd bellach ac mae mam yn dweud ei bod wrth ei bodd gyda sut mae'n mynd.

Meddai, "Defnyddiais i nhw gyntaf pan gefais fy efeilliaid naw mlynedd yn ôl. Mae'r cewynnau hynny gen i o hyd a defnyddiais y cynllun i ychwanegu at y rhai sydd gen i ar gyfer Steffan. Rhoddodd gyfle i mi roi cynnig ar liain heb y gost gychwynnol, ac roeddwn yn dwlu arno.

"Dyw hi ddim yn wir dweud bod cewynnau golchadwy'n waith caled. Mae'n un llwyth ychwanegol o olchi bob ychydig ddiwrnodau. Mae'r cewynnau tafladwy'r un mor hawdd i'w gwisgo ac maen nhw'n arbed ffortiwn.

"Rwy'n dwlu ar y patrymau ar y cewynnau, pa mor hawdd ydynt i'w defnyddio a'r ffaith nad ydw i'n anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi bob tro dwi'n newid cewyn."

Meddai Thomas Williams, o dîm Ailgylchu Cyngor Abertawe, "Gall rhieni wneud gwahaniaeth go iawn drwy ddewis defnyddio cewynnau golchadwy gan ei fod yn dda i'r babi a'r amgylchedd. Mae cewynnau golchadwy'n hawdd i'w defnyddio, yn hawdd i'w golchi ac yn cynnwys dyluniadau a ffabrigau gwahanol."

Ceir rhagor o fanylion am Gynllun Ad-daliad Cewynnau Golchadwy Cyngor Abertawe yn www.abertawe.gov.uk/cewynnau

 

 

Close Dewis iaith