Pam rydym yn talu pobl i faethu?
Yr ateb syml yw bod angen i'n gofalwyr maeth allu cefnogi eu hunain a'r plant maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.
Rydym yn dewis, yn hyfforddi ac yn cefnogi ein gofalwyr maeth yn ofalus gan fod ganddynt rôl bwysig wrth ddarparu cartref diogel i'r plant yn eu gofal.
Rydym yn gwerthfawrogi ein gofalwyr maeth ac yn cydnabod bod maethu yn rôl weithgar, broffesiynol iawn a all fod yn heriol, ond hefyd yn werth chweil. Cymerwch gip ar ein dyddiadur gofalwr maeth i weld sut beth yw wythnos arferol ym mywyd gofalwr maeth.
Y prif ffocws yw'r plant yn ein gofal - gall maethu helpu i leddfu sefyllfa deuluol dros dro neu fod yn lleoliad tymor hwy.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am deuluoedd maeth ar gyfer rhieni a phlant, a fydd yn helpu'r rhiant (neu'r rhieni) a'r plentyn i gael perthynas glòs a hyrwyddo technegau magu plant rhagorol, gyda'r nod yn y pen draw o gadw teuluoedd gyda'i gilydd lle bynnag y bo modd.
Pam ydyn ni'n hysbysebu'r swm rydyn ni'n ei dalu i ofalwyr maeth?
Rydym yn hysbysebu'r swm rydyn ni'n ei dalu i'n gofalwyr maeth gan nad yw llawer o bobl yn sylweddoli y gallai fod yn fforddiadwy iddynt faethu. Efallai nad yw pobl sy'n meddwl am newid gyrfa neu sydd am ddychwelyd i rôl ofalu yn ymwybodol y byddent yn cael eu talu am fod yn ofalwr maeth.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu, ffoniwch 01792 533213 neu dewch i un o'n digwyddiadau maethu.