Man storio bagiau yng nghanol y ddinas
Gadewch eich bagiau a'ch nwyddau mewn lle diogel wrth i chi siopa.
Mae 16 o loceri meintiau gwahanol ar gael yn y siop Llogi cyfarpar symudedd Abertawe i chi adael eich pethau yno.
Maint y locer | Nifer y loceri sydd ar gael | Cyfradd ddyddiol lawn* | Cyfradd hanner diwrnod* |
---|---|---|---|
Safonol | 6 | £3.15 | £2.10 |
Canolig | 4 | £4.20 | £3.15 |
Mawr | 4 | £5.25 | £4.20 |
Mawr iawn (maint cês ddillad) | 2 | £6.30 | £5.25 |
Mae cyfleuster storio dros nos hefyd ar gael am ffi o £16. |
* ceir hefyd ffi allwedd ddychweladwy o £3 ar ben y cyfraddau hyn.
Cyntaf i'r felin fydd hi i gael locer a byddant ond ar gael yn ystod oriau agor y siop llogi cyfarpar symudedd.
Bydd angen i ddefnyddwyr ddarparu ID, cwblhau ffurflen syml a llofnodi i ddweud y byddant yn cadw at yr amodau defnyddio.