Llogi cyfarpar symudedd Abertawe
Rydym yn darparu sgwteri pweredig, cadeiriau olwyn a chadeiriau olwyn gwthio i helpu pobl â thrafferthion symudedd (drwy anabledd parhaol neu dros dro, salwch, damwain neu oed) i siopa neu ymweld â chyfleusterau eraill yng nghanol dinas Abertawe.
Mae'r sgwteri sydd ar gael yn amrywio o ran terfynau pwysau:
- Hyd at 16 stôn
- 16 - 24 stôn
- 24 - 35 stôn
Llogi cerbyd symudedd Llogi cerbyd symudedd
Oriau agor
Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 9.00am - 5.00pm.
Sylwer bod rhaid dychwelyd yr holl gyfarpar erbyn 4.30pm fan bellaf.
Ffioedd a thaliadau
- Ffioedd ymaelodi: £12.60 y flwyddyn.
I gofrestru fel aelod bydd angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru syml yn swyddfa Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe. Bydd rhaid i chi hefyd ddarparu dau brawf adnabod sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad. - Ffi ymwelydd untro: £6.30
Bydd gofyn i dwristiaid ac ymwelwyr dydd ddarparu dau brawf adnabod. - Ffïoedd llogi cyfarpar: £2.60 am sesiwn hanner diwrnod (9.00am - 12.45pm neu 12.45pm - 4.30pm) a £4.20 am sesiwn diwrnod llawn.
Cyfleusterau parcio
Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio ceir ar gael i gwsmeriaid ar Stryd yr Ardd y tu ôl i'r swyddfa llogi cyfarpar symudedd (codir tâl bach). Rhoddir trwyddedau gan staff a rhaid eu dangos ar gerbydau ar bob adeg. Y cyntaf i'r felin gaiff le yn y maes parcio, fodd bynnag, mae maes parcio aml-lawr y Cwadrant drws nesaf os bydd y maes parcio'n llawn.
Sut i ddod o hyd i ni
Rydym yng ngorsaf fysus newydd Abertawe, mewn man canolog er mwyn rhoi mynediad hawdd i'r siopau a'r cyfleusterau yng nghanol y ddinas. Gall cerbydau gyrraedd y maes parcio drwy Stryd yr Ardd (dilynwch yr arwyddbyst).
Map llogi cyfarpar symudedd Abertawe yng ngorsaf fysus Abertawe (PDF) [61KB]
Llinell derfyn cerbydau symudedd
Map llinell derfyn llogi cyfarpar symudedd Abertawe (PDF) [70KB]
Cymhorthion symudedd eraill
Rydym yn gwerthu amrywiaeth o gymhorthion symudedd yn ein siop.
Llogi cyfarpar symudedd Abertawe - eitemau ar gael i’w prynu yn y siop (Word doc) [12KB]
Gadewch eich bagiau a'ch nwyddau mewn lle diogel wrth i chi siopa
Mae gennym 16 o loceri diogel yn y siop fel nad oes rhaid i chi gludo'ch bagiau neu eich nwyddau o amgylch canol y ddinas.