Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardaloedd Cyngor Cymuned a Thref yn Abertawe

Mae 24 Cyngor Cymuned a Thref yn Abertawe ar hyn o bryd.

Mae map cyffredinol sy'n dangos lleoliad yr ardaloedd hyn yn Ninas a Sir Abertawe, a chyfres o fapiau unigol o bob un o'r ardaloedd hyn, ar gael i'w gweld neu eu lawrlwytho isod.

Ardaloedd Cyngor Cymuned a Thref yn Abertawe:

Mae rhywfaint o berthynas rhwng yr ardaloedd Cyngor Cymuned/Tref a'r wardiau etholiadol. Fodd bynnag, mae rhai wardiau yn Abertawe'n cynnwys mwy nag un ardal gymuned, er enghraifft mae ward etholiadol Gŵyr yn cynnwys chwe ardal gymunedol unigol. Mewn man arall, mae ardal gymunedol y Mwmbwls yn cynnwys tair ward etholiadol gyfan.

Mae'r tabl isod yn dangos enghreifftiau lle nad yw'r ardaloedd Cyngor Cymuned/Tref wedi'u cynnwys o fewn wardiau etholiadol, gyda ffeiliau ar wahân ar gael sy'n dangos hyn dros 9 map.

Ward EtholiadolArdal Cyngor Cymuned neu Dref
ClydachClydach; Mawr (rhan)
Dyfnant a ChilâCilâ; dim Cyngor (rhan)
FairwoodY Crwys; Cilâ Uchaf
Gorseinon a PhenyrheolGorseinon; Pengelli a Waungron
Gŵyr

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton; Llanrhidian Isaf; Penrice; Porth Einon; Reynoldston; Rhosili

LlangyfelachLlangyfelach; Mawr (rhan)
Mayals; Y Mwmbwls; West Crossy Mwmbwls
PennardIlston; Pennard
PontarddulaisMawr; Pontarddulais

Mae ystadegau Cyfrifiad 2021 ar y boblogaeth breswyl arferol yn ôl oedran a nifer yr aelwydydd ym mhob ardal ar gael ar y dudalen hon.

Mae rhagor o wybodaeth am Gynghorau Cymuned/Tref Abertawe, gan gynnwys manylion cyswllt clercod, ar gael yma:

Cynghorau Tref a Chymuned - Abertawe (swansea.gov.uk)

Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.