Toglo gwelededd dewislen symudol

Mapiau ardal ystadegol a'r cyfrifiad

Mapiau o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach yn Abertawe.

Mae daearyddiaeth ystadegol yn darparu'r sail ar gyfer cynhyrchu ystadegau ardal leol o'r cyfrifiad cenedlaethol, ac ystadegau eraill a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), adrannau'r llywodraeth a darparwyr gwybodaeth. Maent yn darparu strwythur cyson, sefydlog er mwyn casglu, prosesu, cydgasglu a dadansoddi data'n lleol.

Defnyddiwyd Ardaloedd Cynnyrch (AC) ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE), sydd wedi'u dylunio a'u rheoli gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fel y prif unedau ar gyfer allbynnau data Cyfrifiad lleol ac ystadegau ardaloedd bach eraill ers 2001. 

Mae ystadegau ar gael yn haws mewn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG). Cânt eu llunio o grwpiau o Ardaloedd Cynnyrch (AC - yr uned leiaf, ar hyn o bryd mae 806 yn Abertawe), gyda phob un o'r haenau gwahanol yn cael ei chynnwys yn y lefel uwchben; felly mae AC yn cael eu cynnwys yn yr ACEHI sy'n cael eu cynnwys yn yr ACEHG. Mae'r holl ffiniau sy'n seiliedig ar AC yn y pen draw'n cael eu cynnwys o fewn ardaloedd awdurdodau lleol unigol. Caiff yr ardaloedd hyn eu hadolygu unwaith bob deng mlynedd, ochr yn ochr â'r cam cychwynnol i ryddhau canlyniadau'r y cyfrifiad lleol.  Mae'r ardaloedd diweddaraf yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021.

Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI)

Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) yn cynnwys grwpiau o Ardaloedd Cynnyrch, fel arfer pedwar neu bump. Maent yn cynnwys rhwng 400 a 1,200 o aelwydydd ac mae ganddynt fel arfer boblogaeth breswyl rhwng 1,000 a 3,000 o bobl.

Mae 150 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) bellach yn Abertawe, elw net o ddau o 2011.  Yn dilyn cyfrifiad 2021, rhannwyd tair o ACEHI Abertawe sef yn ardaloedd Gorseinon, Llansamlet a St Thomas.  Ar wahân, unwyd dwy o ACEHI Abertawe yn ardal Y Castell a'r Glannau.

Pan sefydlwyd ACEHI yn 2001, defnyddiwyd dynodwyr côd a rhai'n seiliedig ar enwau, gyda'r enwau'n cyfeirio at y ward etholiadol lle'r oedd yr ACEHI.  Fodd bynnag, yn dilyn rhannu ac uno sawl ACEHI o ganlyniad i gyfrifiad 2011 a 2021, ynghyd ag adolygiadau o wardiau etholiadol ar draws Cymru (yn effeithiol o Mai 2022), mae Llywodraeth Cymru wedi cydlynu adolygiad o enwau ACEHI.  O ganlyniad, mae rhai enwau ACEHI bellach wedi newid o'r rheini a sefydlwyd yn 2001, er nad yw eu ffiniau wedi newid.  Mae hyn yn bennaf oherwydd newidiadau diweddar i enwau neu ffiniau wardiau.

Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG)

Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG) yn cynnwys grwpiau o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI), fel arfer pedwar neu bump. Maent yn cynnwys rhwng 2,000 a 6,000 o aelwydydd ac mae ganddynt fel arfer boblogaeth breswyl rhwng 5,000 a 15,000 o bobl. Mae ACEHG yn rhan o ardaloedd awdurdodau lleol.

Yn dilyn Cyfrifiad 2021, mae 30 o ACEHG bellach yn y sir, un yn llai nag yn 2011, yn sgîl uno dwy ACEHG yn ardal Dyfnant a Chilâ.

Caiff ACEHG yn ninas a sir Abertawe eu codio gan y SYG yn yr amrediad 'Abertawe 001' i 'Abertawe 032' (neu W02000168 i W02000428).  Nid oes gan unrhyw ACEHG enw ffurfiol sy'n seiliedig ar ardal leol.  Fodd bynnag, ym mis Hydref 2019 lluniodd Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin gyfres o enwau ACEHG ar gyfer pob ardal â'r bwriad o ddarparu enwau adnabyddadwy ar gyfer ACEHG sy'n seiliedig ar y trefi, y pentrefi neu'r cymdogaethau maent yn eu cynnwys.  Nid yw'r enwau'n rhai swyddogol ar gyfer ACEHG, ond bwriedir iddynt ddarparu adnodd i ddefnyddwyr er mwyn gwneud data ACEHG yn haws i'w ddadansoddi a'i gyflwyno. 

Mae un ACEHG newydd Abertawe sef 'Dyfnant a Chilâ', yn enw dros dro answyddogol ar gyfer Abertawe 032, yr hen ACEHG Abertawe 020 ('Dyfnant a Chilâ Uchaf') ac Abertawe 023 ('Cilâ') a unwyd.

Adnoddau

i. ACEHG ac ACEHI

Mae'r delweddau sydd ar gael i'w gweld neu eu lawrlwytho ar y dudalen hon yn cynnwys map cyffredinol o ACEHG yn Abertawe, ynghyd â 30 o fapiau unigol o'r ACEHG a lleoliad ACEHI oddi mewn iddynt.

ii. Chwilio am ffeil

Mae ffeil Excel hefyd ar gael sy'n manylu ar y cysylltiadau rhwng ardaloedd daearyddol bach yn Abertawe, er mwyn helpu i ddadansoddi data lleol.  Mae'n cynnwys y taflenni gwaith canlynol:

  • Rhestr o ACEHG yn Abertawe a'r ACEHI oddi mewn iddynt
  • ACEHI i ACEHG a Thabl Chwilio Wardiau Etholiadol (wedi'u trefnu yn ôl côd ACEHI)
  • manylion y newidiadau i Ardaloedd Cynnyrch (rhaniadau ac uniadau) yn 2021 a 2011.

Ardaloedd Cynnyrch Ehangach yn Abertawe (Excel doc, 77 KB)

iii. ACEHI mewn Wardiau (ffit orau)

Pan gyflwynwyd ACEHI gyntaf (ar gyfer cynnyrch Cyfrifiad 2001) roedden nhw fel arfer yn ffitio o fewn ffiniau wardiau ystadegol; fodd bynnag, mae'r berthynas honno wedi lleihau dros amser yn dilyn adolygiadau o Ardaloedd Cynnyrch ehangach a wardiau.  Mae proses 'ffit orau' bresennol y SYG yn nodi 'craidd wedi'i bwysoli gan boblogaeth' (un prif bwynt sy'n adlewyrchu dosbarthiad gofodol poblogaeth Cyfrifiad 2021) ym mhob ACEHI a neilltuir i un ward etholiadol.  Mae'r dudalen hon yn cynnwys set arall o fapiau o wardiau etholiadol Abertawe (32) a'u ACEHI 'ffit orau'.  Mae'r mapiau hyn hefyd yn dangos unrhyw ACEHI sy'n rhannol o fewn wardiau.

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar ddaearyddiaeth ystadegol yn Abertawe, cysylltwch â ni.


Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Ebrill 2025