Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Marchnata symudol ar gerbydlu'r cyngor

Beth am wneud eich hysbyseb yn un symudol gyda'r ffordd unigryw a deniadol hon o greu ymwybyddiaeth o'ch brand?

Mae mwy na 50 o gerbydau casglu ailgylchu a mwy na 250 o gerbydau cynnal a chadw yn y cerbydlu a, rhyngddynt, maent yn ymweld â phob aelwyd yn y ddinas.

Mae hysbysebu ar gerbydau'n creu cynfas symudol i hyrwyddo'ch busnes i breswylwyr a'r gymuned leol gan nad yw'r cerbydau byth yn gadael y ffyrdd. Mae hon yn ffordd berffaith i fusnesau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol hyrwyddo'u cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â'u cysylltiad â Chyngor Abertawe.

Manteision i hysbysebwyr

Mae'n unigryw gan mai un neu ddau banel hysbysebu'n unig sydd gan bob cerbyd (gan ddibynnu ar y cerbyd) ar gyfer un hysbysebwr.

Mae'r paneli'n gallu gwrthsefyll y tywydd ac maent yn ailddefnyddiadwy.Mae'r cynnwys mewn lliw llawn ac yn hyblyg, gyda logo, cyfeiriad gwefan a manylion ffeithiol eraill.

Gellir targedu mannau penodol yn y ddinas neu'r gymuned gyfan, gan helpu i greu cydnabyddiaeth o'ch brand ymhlith y cynulleidfaoedd cywir.

Mae'r ffi'n cynnwys pris cynhyrchu'r hysbyseb a'i gosod. Rhaid i'r cleient ddarparu gwaith celf syn barod i'w argraffu.

Dyma enghraifft o farchnata symudol ar gerbyd cynnal a chadw

Fan transit pellter byr rhwng echelydd

Cynigir hysbysebu ar o leiaf 5 cerbyd.
5 cerbyd am £30 + TAW yr wythnos. Cyfanswm = £1560 + TAW y flwyddyn, fesul cerbyd.
Mae hyn yn cynnwys argraffu 3 sticer finyl fesul cerbyd, a'u gosod.
Ar ôl hynny, y cleient fydd yn talu am newid copi.
Rhaid i'r cleient ddarparu gwaith celf wedi'i gwblhau sy'n barod i'w argraffu.
Cynigir gwasanaeth dylunio mewnol. Ceir pris ar gais.

Dyma enghraifft o farchnata symudol ar gerbyd gwastraff

Y llwyfan delfrydol i hyrwyddo eich neges ecolegol

1 ochr o gerbyd gwastraff

Cyfanswm maint y panel yw 8 troedfedd x 4 troedfedd. Fodd bynnag, defnyddir 2 droedfedd x 4 troedfedd ar gyfer hysbyseb hyrwyddo fewnol. Mae pob panel sydd ar gael yn 6 throedfedd x 4 troedfedd. Mae'r cerbydau'n teithio ar hyd prif ffyrdd a ffyrdd ochr, rhodfeydd a ffyrdd pengaead, gan gynnig gwelededd gwych.

13 wythnos am 1 ochr 1 cerbyd = £450 gan gynnwys pris cynhyrchu.
Ar ôl hynny, y cleient fydd yn talu am newid copi.
Rhaid i'r hysbysebwr ddarparu gwaith celf wedi'i gwblhau sy'n barod i'w argraffu.
Bydd Cyngor Abertawe'n ei argraffu a'i osod.
Cynigir gwasanaeth dylunio mewnol. Ceir pris ar gais.

Close Dewis iaith