Toglo gwelededd dewislen symudol

Model Gwasanaeth ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Mae'r Model Gwasanaeth ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn cynnig model gwasanaeth trosgynnol er mwyn cyflwyno gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaglen Abertawe Gynaliadwy a blaenoriaethau corfforaethol yr awdurdod lleol.

Dyma'n gweledigaeth ar gyfer iechyd, gofal a lles yn y dyfodol:

"Bydd gan bobl yn Abertawe fynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol modern a fydd yn eu galluogi i fyw bywydau bodlon gydag ymdeimlad o les mewn teuluoedd cefnogol a chymunedau cadarn. Byddwn yn helpu pobl i aros yn ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag niwed ac yn rhoi cyfleoedd iddynt deimlo bod ganddynt y grym i fynegi barn, dewis a rheolaeth ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Bydd ein gwasanaethau'n canolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a galluogi. Byddwn yn rhoi gwell cefnogaeth i bobl, gan wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael gyda chefnogaeth ein gweithlu hynod fedrus a gwerthfawr."

Mae'n rhaid i'n model gwasanaeth gyflwyno:

  • Ein Gweledigaeth
  • Gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
  • Ein blaenoriaethau corfforaethol, a'r
  • Arbedion y mae angen eu gwneud drwy Raglen Abertawe Gynaliadwy

Mae ein model yn seiliedig ar y chwe elfen allweddol ganlynol:

  • Atal yn well
  • Cymorth gwell yn gynharach
  • Ymagwedd newydd at asesu
  • Gwell cost effeithiolrwydd
  • Gweithio gyda'n gilydd yn well
  • Cadw pobl yn ddiogel

Wrth wraidd yr egwyddorion hyn y mae'r angen i feithrin perthnasoedd ymddiriedus â'r rheiny yr ydym yn gweithio gyda hwy, gwella cyfathrebu a gweithio ar y cyd i ddylunio a chyflwyno gwasanaethau ac ymyriadau.

Mae'r model hwn yn berthnasol i'r holl wasanaethau iechyd, lles, a gofal a chefnogaeth i oedolion, gan gynnwys pobl hŷn a phobl ag anabledd dysgu, problem iechyd meddwl a phobl ag anabledd corfforol. Rydym yn mynd i gydweithio â phartneriaid mewn ffordd gydweithredol i fwyafu cyfraniadau'r holl asiantaethau at yr ymagwedd hon.

Mabwysiadwyd y model hwn gan y Cabinet ar 15 Mehefin a cheir mynediad ato yn: Pecyn Adroddiadau'r Cabinet (Mehefin 2017) ( ewch i dudalen 23 - Atodiad 1).

Close Dewis iaith