Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cymeradwyaeth i'r ardal chwarae ddiweddaraf i'w gwella

Mae plant ym Mhlas-marl wedi cymeradwyo ardal chwarae sydd newydd gael ei gwella ym Mharc Montana.

Eleni, rhoddir o leiaf £36,000 i bob ward yn Abertawe i'w fuddsoddi mewn cyfarpar chwarae newydd neu i wneud atgyweiriadau i gyfleusterau sydd eisoes yn bod fel rhan o fuddsoddiad sylweddol gan Gyngor Abertawe.

Y gwaith gwella ym Mharc Montana yw'r diweddaraf o naw parc i'w hagor yn swyddogol gyda disgyblion o Ysgol Gynradd gyfagos Brynhyfryd yn dod draw i roi cynnig ar y cyfarpar newydd.

Ymysg y nodweddion sydd ar gynnig i'r plant y mae ardal gemau amlddefnydd ac ardal amlchwarae sy'n cynnwys llithren, si-so a siglenni.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ardaloedd chwarae i blant yn rhan allweddol o'n cymunedau sy'n galluogi plant ifanc i gael hwyl a chwarae mewn amgylchedd diogel.

"Bydd yr arian a gytunwyd gennym fel rhan o'r gyllideb yn sicrhau bod yr ardaloedd chwarae hyn ar draws y ddinas yn cael eu gwella ac yn rhoi cyfle i deuluoedd â phlant ifanc gael hwyl a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored iach am flynyddoedd i ddod."

Mae'r ddinas yn gartref i 86 o leoedd chwarae lle gall plant chwarae'n ddiogel a chael hwyl. Mae angen gwella rhai ohonynt gryn dipyn ac mae eraill wedi cael eu hadeiladu'n ddiweddar fel rhan o ddatblygiadau newydd fel adeiladau ysgol newydd.

Dan y cynllun diweddaraf, mae naw wedi'i cwblhau a disgwylir i eraill agor yn yr ychydig fisoedd nesaf.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Rwy'n falch iawn o weld y lle chwarae newydd ym Mharc Montana ac yn falch o weld cymaint yr oedd y disgyblion wedi mwynhau eu hunain.

"Bydd pob ward yn Abertawe'n elwa o'r hyn rydym yn ei wneud a byddwn yn gweithio gydag aelodau ward lleol ym mhob cymuned i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ardaloedd chwarae hynny a fydd yn elwa o'r buddsoddiad ychwanegol hwn."

I gael rhagor o wybodaeth am leoedd chwarae yn eich cymuned, ewch i: Lleoedd Chwarae