Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwirfoddoli gyda thimau Adfer Natur a Thirwedd Genedlaethol Gŵyr

Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi sut gall gwaith gwirfoddolwyr fod o fudd i fyd natur ac rydym am eich cynnwys lle bynnag y bo'n bosib i gefnogi ein gwaith parhaus i adfer natur.

Mae llawer o fathau gwahanol o gynefinoedd yn Abertawe, sy'n amrywio o glogwyni arfordirol, twyni tywod a morydau, i ucheldiroedd, gweundiroedd, rhosydd a glaswelltiroedd, yn ogystal â choetiroedd a gwlyptiroedd. Mae'r cynefinoedd hyn yn darparu cartrefi ar gyfer amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid gwahanol, gan gynnwys rhai o'r rhywogaethau mwyaf prin a'r rhywogaethau sy'n wynebu'r perygl mwyaf yn y wlad.

P'un a ydych yn gallu gwirfoddoli am ddiwrnod llawn, neu gwpl o oriau'n unig, mae eich amser yn gwneud gwahaniaeth mawr, a chyda'ch cymorth, gallwn gyflawni cymaint yn fwy.

Mae ein cyfleoedd a'n digwyddiadau'n dymhorol:

  • Y gwanwyn a'r haf - rydym yn canolbwyntio ar chwilio am rywogaethau: arolygon ieir bach yr haf a gwyfynod, teithiau tywys i weld ystlumod ac adar, sesiynau glanhau traethau, cyfrif perllannau, arolygon gwenoliaid duon, digwyddiadau cofnodi rhywogaethau.
  • Yr hydref a'r gaeaf - rydym yn canolbwyntio ar reoli a gwella'n mannau gwyrdd: plannu coed, plannu blodau gwyllt, cael gwared ar rywogaethau goresgynnol, gwaith mynediad, prysgoedio, plygu perthi, codi sbwriel, creu cynefinoedd a chynnal a chadw coed.

Nid ydym yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd ond, yn ystod yr hydref a'r gaeaf, rydym yn trefnu Diwrnodau Tasgau Cadwraeth misol yng Ngwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob.

Rydym yn cymryd rhan yn Her Byd Natur y Ddinas (Yn agor ffenestr newydd) ac Wythnos Natur Cymru (Yn agor ffenestr newydd) ac yn cydweithio'n aml â grwpiau cyfeillion parciau, elusennau, cymdeithasau, grwpiau natur a sefydliadau amrywiol eraill.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau a chlywed am gyfleoedd a digwyddiadau sydd ar ddod, ymunwch â'n rhestr bostio neu ewch i'n tudalen digwyddiadau.

Gallwch hefyd gysylltu â ni'n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth.

Cofrestru i dderbyn diweddariadau e-byst am ddigwyddiadau natur a gwirfoddoli

Cofrestrwch yma i dderbyn ein e-byst am ddigwyddiadau natur a chyfleoedd gwirfoddoli.

Digwyddiadau amgylcheddol

Cynhelir digwyddiadau am ddim ac am gost isel o gwmpas Abertawe a phenrhyn Gŵyr.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Awst 2025