Cofrestru i gael hysbysiadau Treth y Cyngor drwy negeseuon testun
Gallwch gofrestru i gael hysbysiadau negeseuon testun gennym ni am eich Treth y Cyngor.
Byddwch yn derbyn negeseuon am y canlynol:
- unrhyw daliadau Treth y Cyngor y gallech eu colli
- negeseuon ad hoc eraill, er enghraifft os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, efallai y byddwn yn eich gofyn i gysylltu â ni
Byddwch ond yn derbyn negeseuon pan fydd gennym ymholiad ac ni fyddant byth yn gofyn i chi glicio ar unrhyw ddolenni neu eu dilyn. Bydd eich ffôn symudol yn dangos bod y neges destun yn dod o: Swansea.gov
Os byddwch yn newid eich rhif ffôn symudol, mae'n bwysig eich bod yn anfon e-bost atom yn TrethyCyngor@abertawe.gov.uk fel y gallwn ddiweddaru'ch cofnod - bydd hyn yn sicrhau na fydd eich negeseuon yn cael eu hanfon at unrhyw un arall.