Ymunwch â'n hymgyrch 'gwnewch y pethau bach'
Mae Prosiect Sero Abertawe wedi cymryd cam mawr ymlaen wrth lansio'i wefan newydd sbon sy'n cyd-fynd â Diwrnod y Ddaear.

Mae disgwyl i'r wefan - www.swanseaprojectzero.co.uk/cy/hafan/ - fod yn ganolbwynt ar gyfer taith Abertawe tuag at gadernid hinsawdd a sero net, gan gynnig cyfle i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr gymryd rhan mewn llunio dyfodol mwy cynaliadwy.
Mae'r wefan, a ddatblygwyd fel rhan o arweinyddiaeth Cyngor Abertawe o'r bartneriaeth Project Zero ar draws y ddinas, yn cyfuno gwybodaeth, adnoddau a'r diweddaraf o 12 sefydliad partner y fenter.
Wrth wraidd y prosiect mae'r nod o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy gydweithio, arloesedd a chamau gweithredu ystyrlon fel rhan o'r ymgyrch 'Gwnewch y pethau bach'.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Rydym yn gwybod ei fod yn bwysig bod ein cymunedau'n gallu cael mynediad at wybodaeth glir a dibynadwy am weithredu ar newid yn yr hinsawdd - a sut y gallant gymryd rhan.
"Mae'r wefan hon yn rhoi llwyfan i ni adrodd stori Prosiect Sero Abertawe ac arddangos y gwaith anhygoel sydd eisoes yn digwydd ar draws ein dinas.
Meddai, "Nid oes modd i bawb wneud popeth drwy'r amser. Ond gall pawb wneud rhywbeth weithiau. Mae'r ymgyrch 'gwnewch y pethau bach' yn dangos sut y mae pob gweithred fach rydym yn ei gwneud yn arwain at wahaniaeth mawr.
"O fusnesau'n gwella'u heffeithlonrwydd ynni i deuluoedd sy'n lleihau gwastraff bwyd, mae Abertawe'n llawn pobl sydd am wneud gwahaniaeth - ac mae'r wefan hon yn rywle lle gallwn ddathlu eu straeon a'u hymdrechion."
Mae nodweddion allweddol y wefan newydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad i Brosiect Sero Abertawe a'i 12 sefydliad partner.
- Mewnwelediad i'r Strategaeth Addasu i Newid yn yr Hinsawdd a Lliniaru, a fydd ar gael i'r cyhoedd ar ôl iddi gael ei chymeradwyo.
- Adran benodol ar gyfer yr ymgyrch 'Gwnewch y pethau bach', sy'n cynnig camau gweithredu ymarferol o ddydd i ddydd y gall unigolion a chymunedau eu cymryd gyda bwyd, ynni, teithio a mwy.
- Mynediad llawn i'r Cynllun Ynni Ardal Leol a ddatblygwyd gyda chefnogaeth Gweithredu ar Newid Hinsawdd.
- Astudiaethau achos, cynnwys gweledol a'r diweddaraf am gynnydd Abertawe tuag at sero net.
Mae'r ymgyrch 'Gwnewch y pethau bach' eisoes ar waith ar draws Abertawe ar bosteri a sticeri ar bileri, gan annog pawb i gyfrannu - boed yn y cartref, yn y gwaith neu wrth fynd o le i le.
Bydd gwefan Prosiect Sero Abertawe'n parhau i dyfu wrth i syniadau newydd gan bartneriaid, trigolion a'r byd ehangach ddod i'r amlwg.
Yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth i'r cyhoedd, mae hefyd yn rywle i gydweithio, lle gall cyrff cyhoeddus, grwpiau cymunedol a busnesau lleol ymuno â'r ymdrech a gwneud cynnydd ar nodau hinsawdd Abertawe gyda'i gilydd.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, ewch i www.swanseaprojectzero.co.uk/cy/hafan/