Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cydymffurfio â nodau masnach a hawlfraint

Ym aml mae logos a dyluniadau wedi'u diogelu gan nodau masnach a deddfwriaeth hawlfraint, a dylai pobl sy'n gwerthu cynnyrch fel teisennau a chrefftau sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon.

Dylai argraffwyr hefyd fod yn ymwybodol o sut caiff nodau masnach a dyluniadau cofrestredig eu diogelu'n iawn.

Gall atgynhyrchu dyluniadau a ddiogelir yn y ffordd hon fynd yn groes i'r ddeddfwriaeth hon gan arwain at oblygiadau ariannol a chyfreithiol i unrhyw fusnes sy'n defnyddio'r dyluniadau heb ganiatâd priodol.

Cyn i chi atgynhyrchu unrhyw ddelwedd, defnyddiwch wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol (Yn agor ffenestr newydd) i wirio a yw'ch nod masnach wedi'i gofrestru ac o dan ba gategori y daw. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni i gael mwy o help.

Mae cyngor busnes helaeth ar gael ar ein tudalennau Cyngor masnachu neu gallwch ffonio Safonau Masnach ar 01792 635600 lle bydd aelod o staff yn gallu'ch helpu.

Close Dewis iaith