Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Nodiadau arweiniol ar gyfer ceisiadau am waliau cynnal

Os ydych chi'n gwneud cais am waith i godi neu ymestyn wal gynnal, darllenwch y nodiadau arweiniol hyn.

1. Dim ond un copi o'r hysbysiad a dogfennau eraill sydd eu hangen.

2. Os ydych chi'n bwriadu codi wal gynnal newydd neu ymestyn un sydd eisoes yn bodoli, bydd angen i chi gyflwyno'r wybodaeth ganlynol gyda'r hysbysiad hwn:

  • cynllun safle i raddfa nad yw'n llai na 1/1250 y mae'n rhaid iddo ddangos safle wal a'i pherthynas â ffiniau ac adeiladau cyfagos
  • manylion llawn y gwaith adeiladu a'r deunyddiau i'w defnyddio. Sylwer y dylid cynnwys cyfrifon er mwyn cadarnhau'r dyluniad.

3. Os yw'r wal i'w hadeiladu dros ddraen neu garthffos, dylai'r cynllun nodi'r rhagofalon i'w cymryd er mwyn diogelu'r draen neu'r garthffos rhag llwythi a roddir arnynt.

4. Wal gynnal yw wal:

  • sy'n cael ei defnyddio, neu y bwriedir ei defnyddio i gynnal pridd neu ddeunydd arall ar un ochr yn unig fel nad yw lefel uchaf y pridd neu ddeunydd yn llai na 1.5m uwchben lefel y ddaear sy'n gyfagos i'r ochr arall
  • nid yw'n rhan o adeilad parhaol neu ragfur ffos.

5. Ar ôl i'r Ddeddf gychwyn, ni chaniateir adeiladu unrhyw wal gynnal oni bai ei bod yn unol â chynlluniau, is-adrannau a manylebau a gymeradwyir gan y cyngor. Os bydd unrhyw berson yn codi wal o'r math yn groes i'r is-adran hon, bydd yn euog o drosedd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1000).

6. Gall unrhyw berson sy'n anghytuno â gwrthodiad y cyngor i gymeradwyo unrhyw gynllun, is-adrannau a manylebau sydd wedi'u cyflwyno iddo apelio i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ebrill 2023