Ardal chwarae newydd yn agor ym Mharc Gwernfadog
Mae ardal chwarae newydd Parc Gwernfadog ar agor yn swyddogol - ei ardal chwarae newydd sbon gyntaf ers 25 mlynedd.
Mae'n cynnig lle newydd a chynhwysol i blant chwarae, archwilio a mwynhau, ac mae'r safle'n cynnwys cymysgedd bywiog o offer o ansawdd uchel wedi'i deilwra i blant bach ac iau.
Mae'r offer yn y parc ar dir y tu ôl i Ysgol Gyfun Treforys yn cynnwys llithren newydd sy'n rhan o'r llethr, siglenni crud a seddi gwastad, gyda chylchfan arddull dysgl sy'n sicrhau y gall plant o bob gallu ymuno yn yr hwyl.
Mae ardal chwarae newydd Parc Gwernfadog yn rhan o raglen fuddsoddi gwerth £8 miliwn Cyngor Abertawe i drawsnewid dwsinau o ardaloedd chwarae ledled y ddinas.
Er mai Parc Gwernfadog yw'r ardal chwarae newydd gyntaf yn Nhreforys ers chwarter canrif, mae ardaloedd chwarae eraill yn y gymuned hefyd wedi'u diweddaru a'u hadnewyddu fel rhan o'r rhaglen.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym yn buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae i roi cyfle i blant ledled Abertawe fwynhau mannau diogel, difyr a chynhwysol yn eu cymunedau."
Cafodd y penderfyniadau ynghylch yr offer newydd ym Mharc Gwernfadog eu llywio gan adborth gan deuluoedd a chynghorwyr lleol, gan sicrhau bod y cyfleusterau newydd yn diwallu anghenion a dymuniadau'r gymuned.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym am i blant gael y dechrau gorau posib mewn bywyd, ac mae hynny'n cynnwys cael mynediad at leoedd diogel a difyr i chwarae ynddyn nhw."
Mae'r holl offer wedi'i ddewis yn ofalus am ei wydnwch, ei ddiogelwch a'i hygyrchedd. Mae'r deunyddiau a ddefnyddir yn gadarn ac yn gallu gwrthsefyll y tywydd ac mae'r cynllun yn annog chwarae dychmygus a rhyngweithio cymdeithasol.
Dragon Play sydd wedi gosod yr ardal chwarae ac mae'r cwmni wedi darparu nifer o'r parciau newydd ledled y ddinas.
Mae Parc Gwernfadog bellach yn enghraifft ddisglair o ymrwymiad y cyngor i wella lles cymunedol drwy chwarae hygyrch o ansawdd uchel. Anogir teuluoedd i ymweld â'r ardal chwarae a mwynhau'r cyfleusterau newydd, sy'n addo oriau o hwyl, antur a chysylltiad.
Darparwyd cyllid ar gyfer y prosiect gan Gyngor Abertawe. Gellir cael rhagor o wybodaeth am welliannau i ardaloedd chwarae ledled Abertawe yn: www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd
