Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynigion parcio ceir newydd i bobl sy'n gweithio ac yn byw yng nghanol y ddinas

Mae Cyngor Abertawe'n cyflwyno tri chynnig parcio ceir y disgwylid iddynt gael eu cyflwyno'n ddiweddarach eleni i gefnogi preswylwyr a'r rheini sy'n gweithio yng nghanol y ddinas.

car park quadrant

Mae'r tri chynnig penodol, yr oedd disgwyl iddynt gael eu cyflwyno'n ddiweddarach eleni, wedi'u cyflwyno'n gynt oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus ac i roi hwb di-oed pellach i economi canol y ddinas.

Dyma'r cynigion:

·         Caiff hyd at 700 o hawlenni cost isel eu cynnig i fusnesau canol y ddinas sy'n golygu y gall staff barcio am gyfwerth â £1.35 y dydd.

·         Bydd y cynnig 1-2-3 yn dychwelyd lle gall preswylwyr barcio yng nghanol y ddinas am £1 yr awr, £2 am ddwy awr a £3 am hyd at 3 awr wrth barcio ar ôl 9am a gadael erbyn 6pm.

·         Mae'r tâl parcio am wyth awr ym meysydd parcio'r Cwadrant a Bae Copr (Arena) yn cael ei ddileu gan olygu mai'r tâl yn awr am hyd at 12 awr fydd £16.50 i breswylwyr a £17 i bobl nad ydynt yn breswylwyr.

Cynigir yr hawlenni busnes yn syth, a bydd y taliadau ar gyfer y cynnig 1-2-3 yn cael eu cyflwyno cyn gynted ag y gellir addasu'r peiriannau talu.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Fe gyflwynom daliadau parcio newydd yn gynharach yr wythnos hon, sef y cynnydd cyntaf ers 2014, ond ar yr un pryd rydym yn cydnabod yn llawn fod yr argyfwng costau byw yn dal i effeithio ar deuluoedd a busnesau.

"Rydym wedi clywed yr alwad am i ni barhau â'n cymorth hir sefydlog ac felly rydym yn cyflwyno'r cynigion hyn yn gynt na'r disgwyl er mwyn gwneud hynny.

"Rydym am gefnogi'n busnesau yng nghanol y ddinas a'r rheini sy'n gweithio yng nghanol y ddinas felly rydym yn sicrhau bod 700 o hawlenni parcio ychwanegol ar gael i gyflogwyr sy'n golygu bod eu staff yn gallu parcio am £1.35 y diwrnod, sy'n werth da iawn am arian.

"Rydym yn ailgyflwyno'r cynnig parcio 1-2-3 poblogaidd yng nghanol y ddinas (ac eithrio Bae Copr) gan gynnig parcio am £1 yr awr, £2 am ddwy awr a £3 am hyd at dair awr, cynnig parcio canol dinas sydd ymysg y rhataf a geir yn unrhyw le ar draws y wlad.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i barhau i gefnogi'r bobl a'r busnesau lleol yn Abertawe a bydd y gostyngiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r rheini sy'n gweithio ac yn siopa yng nghanol y ddinas."

Close Dewis iaith