ParkLives
Mae ParkLives yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol.


Sesiynau ParkLives ar hyn o bryd
Gall yr holl sesiynau newid. Bydd ParkLives yn newid ei sesiynau'n unol â chanllawiau cyfredol y llywodraeth.
Dydd Llun
- Cylchedu, Parc Coed Gwilym, 6.00yn
Dydd Mawrth
- Cerdded Nordic, Parc Singleton, 10.00yb
Dydd Mercher
- Low Impact Fitness for Older Adults, Park Brynmill, 10.00yb
- Companion Cycling, Clwb Rugbi Dunvant, 10.00yb (info@bikeabilitywales.org.uk neu cysylltwch a Cez ar 07584044284)
Dydd Gwener
- Zumba, Parc Jersey, 9.45am
Dydd Sadwrn
- Tai Chi, Lawnt Fowlio. Parc Brynmill, 10.00yb
- Pilates, Canolfan Hamdden Penyrheol, 12.30pm
Cymerwch gip ar y rhestr lawn o weithgareddau ac archebwch le drwy ticketsource: www.ticketsource.co.uk/swanseasportandhealth
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: Park.Lives@abertawe.gov.uk
Amserlen ar gyfer yr haf
Mae ein hamserlen ar gyfer yr haf bellach yn fyw, cymerwch gip arni yma www.ticketsource.co.uk/swanseasportandhealth
Y newyddion diweddaraf
Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am sesiynau a digwyddiadau sydd ar ddod Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Twitter a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook.
Mae menter ParkLives yn cael ei arwain yn uniongyrchol gan dîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol o ganlyniad i ymrwymiad gan Coca-Cola Great Britain i fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol.