ParkLives
Mae ParkLives yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol.


Sesiynau ParkLives ar hyn o bryd
- Dawns - Iechyd a ffitrwydd, Dydd Llun, Forge Fach (Clydach), 10.30am -12.30pm. Dosbarth difyr i wella cydbwysedd, cryfder, ystwythder a hyblygrwydd i gefnogi hirhoedledd ac atal cwympiadau. Bydd paned a sgwrs ar ôl y dosbarth. Ffoniwch Vic ar 07795 295409 am ragor o wybodaeth ac i gadw lle.
- Cerdded Nordig 16+, dydd Mawrth, Parc Cwmdoncyn, 10.00am - 10.45am.
- Reidiau gyda chydymaith, Dydd Mercher, Clwb Rygbi Dyfnant, 10.00am - 12.00pm. Rhaid archebu'n uniongyrchol â Bike Ability Wales drwy ffonio 07584 044284.
- Ffitrwydd Ysgafn i Oedolion Hŷn, dydd Mercher, Canolfan Gymunedol Parc Sgeti, 10.00am - 10.45am.
- Pilates 16+, dydd Mercher, Neuadd Llewelyn, 10.30am - 11.15 am.
- T'ai Chi 16+, dydd Sadwrn, Canolfan Gymunedol San Phillip, 10.00am - 11.00am.
Cynhelir mynyddfyrddio ddwywaith y mis ar benwythnosau - mae'r parciau a'r diwrnodau'n amrywio, felly gweler y ddolen archebu am ddyddiadau a lleoliadau penodol.
Cymerwch gip ar y rhestr lawn o weithgareddau ac archebwch le drwy ticketsource: www.ticketsource.co.uk/swanseasportandhealth
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: Park.Lives@abertawe.gov.uk
Y newyddion diweddaraf
Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am sesiynau a digwyddiadau sydd ar ddod Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Twitter (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd).
Mae menter ParkLives yn cael ei arwain yn uniongyrchol gan dîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol o ganlyniad i ymrwymiad gan Coca-Cola Great Britain i fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol.