Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Peidiwch â thaflu sbwriel - ewch ag ef adref gyda chi

Mae digonedd o draethau prydferth yn Abertawe, 19 i gyd, ac rydym am i bawb eu mwynhau trwy gydol y flwyddyn.

Dyfarnwyd statws y Faner Las i lawer o'n traethau sy'n adlewyrchu pethau pwysig megis ansawdd dŵr, trefniadau rheoli'r traethau a pha mor lân ydynt.

Sut gallwch chi helpu?

Rydym am i'r holl ymwelwyr â'n traethau eu parchu, a'n helpu i'w cadw'n lân.

Mae'n hynod hawdd

Y cyfan rydym yn ei ofyn yw i ymwelwyr ddefnyddio'r biniau sbwriel sydd ar gael er mwyn gwaredu eu sbwriel. Os yw'r biniau'n llawn, galwn ar ddefnyddwyr y traeth i fynd â'u sbwriel adref gyda nhw. Gallwch hefyd roi gwybod i ni am finiau llawn yma er mwyn i ni allu eu gwagio.

Pa mor aml rydym yn glanhau'r traethau?

Yn ystod yr haf mae ein timau sbwriel yn casglu sbwriel o'r traethau bob bore  Mae peth o'r sbwriel hwn wedi'i olchi i'r traeth pan fydd penllanw.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Surfers Against Sewage (Adroddiad Sbwriel Morol) 2014-2020 amlygwyd bod:

  • Gweithgareddau traethlin a hamdden yn gyfrifol am 58% o wastraff morol.
  • Awdurdodau Lleol y DU yn gwario oddeutu £18 miliwn bob blwyddyn yn gwaredu gwastraff traeth. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 37% mewn costau dros y degawd diwethaf.

I geisio ymdrin â'r broblem hon, mae grwpiau gwirfoddoli ymroddedig a phreswylwyr lleol hefyd yn glanhau'r traethau er mwyn cefnogi'r gwaith rydym eisoes yn ei wneud.

I gael gwybodaeth am sbwriel morol/arfordirol, a'r hyn y gellir ei wneud i helpu i leihau hyn a sut i wirfoddoli, ewch i;

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am draethau Abertawe a phenrhyn Gŵyr yn Traethau