Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa bensiwn gwerth £2.7 biliwn yn ceisio torri ei hôl troed carbon i sero

Mae cronfa bensiwn arobryn Cyngor Abertawe wedi torri ei hôl troed carbon bron 60% ac mae'n bwriadu mynd yr holl ffordd i fod yn sero-net o ran carbon dros y blynyddoedd nesaf.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Mae'r gronfa £2.7 biliwn, sy'n gofalu am gronfeydd ymddeoliad 47,000 o aelodau, eisoes wedi cymryd cam mawr tuag at ddod yn sero-net o ran carbon drwy leihau'r swm o arian a fuddsoddir mewn cwmnïau olew a sefydliadau eraill ag olion traed carbon uchel.

A'r wythnos hon cytunodd ei phrif bwyllgor y bydd y gronfa'n sero-net o ran carbon erbyn 2037, 13 o flynyddoedd cyn y DU yn gyffredinol.

Ers 2017, mae'r gronfa bensiwn wedi llwyddo i leihau ei hôl troed carbon 58% diolch i gymysgedd o beidio â buddsoddi mewn busnesau sy'n defnyddio llawer o garbon a buddsoddi mewn mentrau gwyrdd sy'n ystyriol o'r amgylchedd.

Nawr mae wedi llunio cynllun ar gyfer cynyddu cyfran y buddsoddiadau a chanddynt ffocws cadarnhaol ar yr hinsawdd.

Ar hyn o bryd, dim ond 7% o fuddsoddiadau'r gronfa sydd â chysylltiadau uniongyrchol â thanwyddau ffosil, a bydd hynny'n cyrraedd sero cyn 2037.

Meddai Clive Lloyd, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Abertawe, "Mae'r gronfa'n darparu ar gyfer ei 47,000 o aelodau, ac mae'n darparu ar gyfer y dyfodol.

"Ni oedd y cynllun pensiwn llywodraeth leol gyntaf yng Nghymru - ymysg nifer bach yn unig yn y byd - i gomisiynu adolygiad o'n portffolio buddsoddi ecwiti i ganfod graddau ein buddsoddiadau carbon a thanwydd ffosil.

"Ers hynny rydym wedi symud gwerth £0.5 biliwn o asedau i gronfeydd olrhain mynegai carbon isel gan leihau ymhellach yr hyn oedd eisoes yn lefel isel o fuddsoddiadau mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â charbon." 

Mae Cronfa Abertawe, y mae Cyngor Abertawe'n ei rheoli ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a nifer o gyflogwyr eraill yn yr ardal, wedi'i chydnabod eisoes yng ngwobrau Buddsoddi Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol sy'n dathlu llwyddiant arbennig cronfeydd pensiwn a darparwyr gwasanaethau.

Abertawe enillodd y wobr am y gronfa â'r Ymagwedd Orau at Fuddsoddi Cynaliadwy yn y DU yn 2019. Mae hefyd wedi'i henwebu ar gyfer Cronfa Bensiwn Awdurdod Lleol y Flwyddyn, y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau a'r Buddsoddiad Arloesol Gorau yng ngwobrau eleni, diolch i raglen diogelu ecwiti a lwyddodd i arbed £9m i'r gronfa pan gwympodd y farchnad ecwiti fyd-eang -20% yn gynharach eleni oherwydd cychwyniad COVID-19, a hefyd ei rhaglen defnyddio llai o garbon, sydd wedi lleihau defnydd carbon y portffolio ymhellach.

Ychwanegodd y Cyng. Lloyd, "Yn 2019 fe gymeradwyom gynnig yn Abertawe a oedd yn datgan argyfwng hinsawdd, ac anogom lywodraeth y DU i wneud yr un peth.

"Rydym yn gwneud penderfyniadau ac yn cymryd camau ymarferol bob dydd sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn ond gwyddwn y gallwn wneud mwy, a byddwn yn gwneud hynny. Rydym yn benderfynol mai Abertawe fydd y cyngor mwyaf gwyrdd ac ynni effeithlon yng Nghymru."

 

 

Close Dewis iaith