Toglo gwelededd dewislen symudol

Plant sy'n derbyn gofal yn dod yn annibynnol

Sut mae'r Awdurdod yn cefnogi plant a oedd unwaith yn derbyn gofal er mwyn iddynt fyw fel oedolion annibynnol.

Mae'r awdurdod lleol yn cadw elfen o gyfrifoldeb am blant oedd yn derbyn gofal nes iddynt gyrraedd 21 oed (neu 24 oed os ydynt mewn addysg amser llawn.) Mae'n ceisio eu cefnogi nes eu bod yn oedolion mewn ffordd sy'n eu gwneud yn fwy annibynnol wrth iddynt ddysgu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i allu defnyddio gwasanaethau ac adnoddau eu hunain, ac i ddefnyddio'u hawliau a'u cyfrifoldebau fel oedolion annibynnol.

Mae'n rhaid i bob person ifanc 16 ac 17 oed a fu dan ofal awdurdod lleol am 13 wythnos neu fwy wedi 14 oed gael Cynllun Llwybr a Chynghorydd Personol.  Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydynt wedi dychwelyd i fyw gyda'u teulu ar ôl derbyn gofal. 

Mae'r Cynllun Llwybrau yn amlinellu sut mae'r awdurdod lleol a sefydliadau partner yn y sector annibynnol neu'r sector gwirfoddol yn bwriadu cefnogi anghenion y person ifanc wrth iddynt dyfu'n annibynnol.  Dylai'r cynllun gyfeirio at anghenion addysg neu hyfforddiant, cyflogaeth a llety y person ifanc.

Hefyd ceir gwybodaeth am gadael gofal ar wefan y llywodraeth genedlaethol: www.gov.uk/leaving foster or local authority care (Yn agor ffenestr newydd).

Pwrpas ap Fy Nghynllunydd Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yw i helpu a chynnig cymorth i bobl ifanc mewn gofal, a rhai sy'n gadael gofal, wrth iddyn nhw meddwl am adael gofal a byw'n annibynnol. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar hawliau, cymorth ariannol, cyfrifiannell cyllid, ac adran ar fyw'n annibynnol sy'n cynnwys ryseitiau blasus a sgiliau glanhau.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.

Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Canolfan wybodaeth i deuluoedd a phlant.