Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardaloedd chwarae i'w gwella mewn pymtheng yn rhagor o gymunedau

Bydd ardaloedd chwarae i blant lleol yn cael eu hadeiladu neu eu gwella mewn hyd at 15 o gymunedau fel rhan o raglen arloesol gwerth £7m gan Gyngor Abertawe.

play area opening cheers

Disgwylir i waith ddechrau ar safleoedd fel Canolfan y Ffencis yn Townhill, Plas-marl, Gendros, Pontlliw a Chlydach yn yr haf gyda chynifer â 10 arall i ddilyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Bydd y rownd ddiweddaraf o waith yn golygu bod dros 50 o brosiectau ardaloedd chwarae wedi'u cwblhau dan y rhaglen hynod boblogaidd sydd wedi bod o fudd i gymunedau ar draws Abertawe.

Croesawyd y cyhoeddiad am y rownd newydd o brosiectau gan Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, ac addawodd y byddai rhagor i ddilyn.

Meddai, "Gwyddwn pa mor boblogaidd yw'r ardaloedd chwarae gwell hyn. Mae miloedd lawer o deuluoedd wedi mwynhau eu defnyddio dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a phob tro rydym yn cyhoeddi mwy, maen nhw bob amser yn cael eu croesawu'n lleol.

"Heblaw am y pump sydd i'w gwella'r haf hwn, rydym hefyd ar gam cynllunio datblygedig ar gyfer gwelliannau ym Mharc Jersey yn St Thomas, Parc Brynmill, Lle Chwarae Blaen-y-maes, Cwm Level ym Mrynhyfryd ac ardal chwarae DFS yn Nhreforys.

"Rydym yn gobeithio cyhoeddi gwelliannau mewn pum lleoliad arall yn ddiweddarach yn yr haf."

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, y byddai'r rownd ddiweddaraf o brosiectau'n dod â'r gwariant a neilltuwyd i rwydwaith ardaloedd chwarae'r ddinas i £7m.

Meddai, "Gwnaethom ein haddewid ardaloedd chwarae yn ymrwymiad polisi oherwydd i ni weld pa mor bwysig yr oeddent i deuluoedd ifanc a phlant fel lleoedd am ddim i fynd iddynt wrth i ni ddod allan o'r pandemig.

"Roeddem am barhau i annog cyfleoedd i fynd allan ac o'm hymweliadau i weld y safleoedd, mae'n amlwg bod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn.

"Mae mwynhau'r awyr iach mor bwysig i'n pobl ifanc. Mae ardaloedd chwarae yn darparu mannau diogel i blant a theuluoedd gwrdd, lle gallant gael hwyl a threulio amser pwysig gyda'i gilydd."

Ers dechrau'r rhaglen ardaloedd chwarae, buddsoddwyd mewn llawer o gymunedau ar draws Abertawe gan gynnwys Mayhill, West Cross, Garnswllt, Bôn-y-maen, Mawr, Pengelli, Pen-clawdd a Gellifedw.

Heblaw am siglenni, llithrennau a rowndabowts traddodiadol, mae nodweddion mewn rhai safleoedd hefyd wedi cynnwys gwifrau gwib, fframiau dringo a thrampolinau.

I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i:Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

Close Dewis iaith