Toglo gwelededd dewislen symudol

Pump yn rhagor o ardaloedd chwarae ar y ffordd i gymdogaethau yn Abertawe

Gall plant mewn pum cymuned yn Abertawe edrych ymlaen at fwynhau ardaloedd chwarae newydd ac wedi'u huwchraddio yn y misoedd i ddod.

play area opening cheers

Gall plant mewn pum cymuned yn Abertawe edrych ymlaen at fwynhau ardaloedd chwarae newydd ac wedi'u huwchraddio yn y misoedd i ddod.

Mae gwaith yn dechrau'r mis hwn ar bum ardal chwarae newydd yng Nghanolfan y Ffenics Townhill yn ogystal ag ym Mhlasmarl, Gendros, Pontlliw a Chlydach.

Disgwylir i'r cyngor gytuno ar 10 cynllun arall dros y misoedd sy'n dod a fydd yn dod â nifer y cynlluniau a gwblhawyd i fwy na 60 dan raglen hynod boblogaidd sydd wedi bod o fudd i gymunedau ledled Abertawe.

Bydd siglenni, carwselau, fframiau dringo ac unedau amlchwarae yn nodweddion yn y pum ardal chwarae newydd lle bydd gwaith yn dechrau'n ddiweddarach y mis hwn, rhan o ymgyrch barhaus £7m y cyngor i gael plant i chwarae yn eu cymdogaethau

Ers dechrau'r rhaglen ardaloedd chwarae mae cymunedau ar draws Abertawe wedi gweld buddsoddiad mewn ardaloedd sy'n cynnwys Mayhill, West Cross, Garnswllt, Bôn-y-maen, Mawr, Pengelli, Pen-clawdd a Gellifedw.

I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i:https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

 

 

Close Dewis iaith