Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad o bolisi gamblo

Datganiad o Egwyddorion Dinas a Sir Abertawe parthed yr Adolygiad o Ddeddf Gamblo (Polisi Gamblo) 2005.

Mae Dinas a Sir Abertawe ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i'w Bolisi Gamblo.

Mae fersiwn ddrafft o'r polisi diwygiedig bellach ar gael ar y wefan hon er mwyn ymgynghori arno, ac fe'ch gwahoddir i gyflwyno sylwadau ar y newidiadau.

Gellir gweld y newidiadau arfaethedig mewn llythrennau italig du ar y ddogfen, a lle bwriedir dileu gwybodaeth, caiff hyn ei ddangos trwy dynnu llinellau drwy'r testun.
Agenda for Cabinet Dydd Iau, 19 Medi 2024, 10.00 am

Cliciwch ar "Papurau ar gyfer y cyfarfod hwn mewn pecyn" a gweler Eitem 10 ar dudalennau 85 i 143.

Rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau'n ysgrifenedig a'u hanfon i'r cyfeiriad isod a rhaid iddynt gael eu derbyn erbyn 12 ganol dydd fan bellaf ar 11 Hydref 2024. Mae fersiwn electronig yn dderbyniol a gellir ei anfon i Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk

Taflen ymateb (Word doc) [60KB]

Wrth gyflwyno sylwadau ar adran benodol, defnyddiwch y daflen ymateb sydd ar gael ar y wefan hon, a chyfeiriwch at y rhifau paragraff ar y ddogfen.
Unwaith bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, caiff yr holl sylwadau eu hystyried. Yna caiff y polisi terfynol ei gymeradwyo gan y cyngor i'w fabwysiadu.

Os oes angen copi caled o'r dogfennau hyn arnoch chi, e-bostiwch y cyfeiriad uchod.

Rhaid anfon unrhyw ohebiaeth i'r:
Trwyddedu/Tai ac Iechyd y Cyhoedd
Cyngor Abertawe
St. Helens Crescent
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE

Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Medi 2024