Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi Sipsiwn a Theithwyr

Mae ein Polisi Sipsiwn a Theithwyr yn rhoi cyfle cyfartal i deuluoedd gael mynediad i wasanaethau a ddarperir gan y cyngor ac eraill.

Mae ein Polisi Sipsiwn a Theithwyr yn rhoi cyfle cyfartal i deuluoedd gael mynediad i wasanaethau a ddarperir gan y cyngor ac eraill.

Mewn ymateb i newidiadau deddfwriaethol, adolygwyd y polisi ym mis Rhagfyr 2017 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'n nodi sut bydd y cyngor yn sicrhau bod ei ystod lawn o wasanaethau, gan gynnwys addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol, ar gael i deuluoedd.

Mae hefyd yn cynnwys gwethdrefn i ymdrin â gwersylloedd anawdurdodedig.

 

  1. Cyflwyniad
  2. Pwy yw Sipsiwn a Theithwyr?
  3. Cyd-destun Cyfreithiol
  4. Datganiad Polisi
  5. Gweithio Corfforaethol a Phartneriaeth
  6. Monitro ac Adolygu'r Polisi
  7. Sylw dyladwy i erthyglau/hawliau CCUHP 
  8. Geirdaon

 

1. Cyflwyniad

Mae Dinas a Sir Abertawe (DASA) yn ymrwymedig i wella bywydau ei breswylwyr, hyrwyddo hawliau'r holl bobl sy'n byw ac yn gweithio yn ei rhanbarth a'r rhai sy'n ymweld, ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau.

Mae'r cyngor yn cydnabod bod gan bawb yr hawl i gael ei amddiffyn rhag niwsans, aflonyddu a gwahaniaethu ac i gael mynediad i'r amrywiaeth llawn o wasanaethau a gynigir gan y cyngor i ddiwallu ei anghenion.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith eu penderfyniadau, i weithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Gosodir y polisi Sipsiwn a Theithwyr yng nghyd-destun strategaeth drosgynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr o'r enw: 'Teithio i Ddyfodol Gwell', 1yn ogystal â pholisïau a chynlluniau'r cyngor sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chydlyniant cymunedol.

Diben y polisi hwn yw sicrhau bod holl aelodau cymunedau sipsiwn a theithwyr presennol ac yn y dyfodol yn DASA yn derbyn gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r cyngor yn ymrwymedig i hybu arfer da gyda'r holl asiantaethau a chynyddu ymwybyddiaeth o'r diwylliant.

 

2. Pwy yw Sipsiwn a Theithwyr?

Mae 'Sipsiwn a Theithwyr' yn derm cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio nifer o bobl sy'n dilyn ffordd o fyw sipsiwn a theithwyr, yn ogystal â chredoau diwylliannol a moesol arbennig. Mae'r polisi hwn yn defnyddio'r diffiniad canlynol o sipsiwn a theithwyr, sef y disgrifiad sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014:

Personau sy'n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo'u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:

(i) personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi'r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a

(ii) aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy'n rhan o syrcasau teithiol (p'un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o'r fath ai peidio), ac

b) unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol."

Mae'r holl grwpiau hyn yn gysylltiedig â ffordd deithiol o fyw a gallant rannu rhai credoau ac arferion cyffredin, ond mae'n bosib y bydd gan bob grŵp ieithoedd, traddodiadau ac ethnigrwydd arbennig.

 

3. Cyd-destun Cyfreithiol

3.1 Cydraddoldeb

Cydnabyddir sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig fel grwpiau hiliol ac felly maent yn grwpiau a warchodir fel a ddiffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'n ofynnol yn ôl Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i ni, fel awdurdod cyhoeddus, weithio i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon; hybu cyfle cyfartal rhwng grwpiau gwahanol; a meithrin perthnasoedd da rhwng grwpiau gwahanol o bobl.

 

3.2 Tai a Chynllunio

Mae'n ofynnol yn ôl Deddf Tai 2004 i awdurdodau tai lleol gynnal asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr erbyn mis Chwefror 2016, y dylid ei ddiweddaru wedyn o leiaf bob pum mlynedd.

Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safle i sipsiwn a theithwyr lle mae angen wedi'i nodi. Lle mae awdurdod lleol yn methu yn ei ddyletswydd i ddarparu safleoedd addas a digon ohonynt, gall Gweinidogion Cymru eu gorfodi i wneud hynny.

Lle caiff angen ei nodi, rhaid i'r cyngor roi ystyriaeth briodol i nodi safleoedd fel rhan o'i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl). Byddai safleoedd yn destun caniatâd cynllunio yn y ffordd arferol.

Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 30/2007: Er mwyn cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafanau Sipsiwn a Theithwyr, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol neilltuo safleoedd digonol yn eu CDLl i sicrhau y bodlonir gofynion lleiniau a nodwyd ar gyfer sipsiwn a theithwyr parhaol a thros dro. Gellir cyfiawnhau caniatâd dros dro lle disgwylir i'r amgylchiadau cynllunio newid ar ddiwedd cyfnod y caniatâd dros dro. Mewn achosion lle:

  • mae angen heb ei ddiwallu;
  • nad oes darpariaeth safle sipsiwn a theithwyr amgen mewn ardal; ac
  • mae disgwyliad rhesymol y bydd safleoedd newydd yn debygol o fod ar gael ar ddiwedd y cyfnod hwnnw yn yr ardal a fydd yn diwallu'r angen hwnnw;
  • gall y cyngor ystyried rhoi caniatâd cynllunio dros dro.

 

4. Datganiad Polisi

Mae'r cyngor yn cydnabod pwysigrwydd dathlu amrywiaeth yr holl rai sy'n byw yn DASA ac yn cydnabod mai'r unig ffordd i gyflawni hyn yw os yw'r holl gymunedau'n teimlo'n ddiogel ac wedi'u gwerthfawrogi. Bydd y cyngor yn glynu wrth egwyddorion cydlyniant cymunedol ac yn cefnogi diwylliant lle ceir parch at eraill a lle goddefir hunaniaeth hiliol a diwylliannol. Mae'r cyngor yn ymrwymedig i:

  • Ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu anghyfreithlon a hyrwyddo cyfle cyfartal a thegwch;
  • Ystyried anghenion a disgwyliadau'r holl gymunedau;
  • Defnyddio pwerau gorfodi mewn ffordd deg a chymesur wrth ymdrin â gwersyllfannau a datblygiadau diawdurdod;
  • Gweithio mewn partneriaeth â'r gymuned sipsiwn a theithwyr a chymunedau lleol ac ymgynghori â hwy i hyrwyddo dealltwriaeth a pharch y naill at y llall;
  • Cyflawni ei holl rwymedigaethau statudol wrth ystyried arweiniad perthnasol;

 

5. Gweithio Corfforaethol a Phartneriaeth

Mae nifer o adrannau'r cyngor ac asiantaethau allanol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau i sipsiwn a theithwyr yn ardal DASA. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau ac asiantaethau yn mynd i Fforwm Sipsiwn a Theithwyr Bae'r Gorllewin sy'n helpu i sicrhau y cydlynir gwasanaethau i'r gymuned.

 

5.1 Cydlyniad Cymunedol

Mae cydlyniant cymunedol yn amlwg yn bwysig i fywydau pawb yn ein cymuned. Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi diffiniad ffurfiol Llywodraeth y DU o gydlyniad cymunedol:

Mae'n rhaid i gydlyniant cymunedol ddigwydd ym mhob cymuned er mwyn galluogi grwpiau gwahanol i gyd-dynnu'n dda. Cyfrannwr allweddol i gydlyniant cymunedol yw integreiddio sef yr hyn sy'n gorfod digwydd er mwyn i breswylwyr newydd a phresennol addasu i'w gilydd.

Mae gweledigaeth y cyngor o gymuned integredig a chydlynol yn seiliedig ar dair egwyddor:

  • Pobl o gefndiroedd gwahanol yn cael cyfleoedd bywyd tebyg;
  • Pobl yn gwybod beth yw eu hawliau a'u cyfrifoldebau; ac
  • Pobl yn ymddiried yn ei gilydd a sefydliadau lleol i weithredu'n deg,

a thair ffordd allweddol o fyw gyda'n gilydd:

  • Gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol ac ymdeimlad o berthyn;
  • Canolbwyntio ar yr hyn sy'n gyffredin rhwng cymunedau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes, ynghyd â chydnabod gwerth amrywiaeth; a
  • Pherthnasoedd cryf a chadarnhaol rhwng pobl o gefndiroedd gwahanol.

Mae cyflawni nodau cydlyniant cymunedol yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaethau a grwpiau cymunedol yn gweithio tuag at weledigaeth gyffredin drwy gyflwyno'r Cynllun Cyflawni Cydlyniant Cymunedol. Mae'r cynllun hwn yn cyfeirio'n benodol at sipsiwn a theithwyr ac yn disgrifio sut gellir nodi a hyrwyddo anghenion y gymuned hon.

Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn datblygu Cynllun Gweithredu Troseddau Casineb a'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn Abertawe ac adrodd amdanynt. Cyfeirir at sipsiwn a theithwyr yn y Cynllun Gweithredu.

 

5.2 Gwasanaethau Addysg

Mae'r Gwasanaeth Addysg Teithwyr (GAT) yn cydlynu, yn monitro, yn rhoi cyngor ac yn cefnogi darpariaeth addysg i'r gymuned sipsiwn a theithwyr yn Abertawe. Mae gan y GAT gofnod hir a llwyddiannus o ymweld â sipsiwn a theithwyr a gweithio gyda hwy, gan gynnwys teuluoedd ar y safle swyddogol a theuluoedd sydd wedi gwersyllu'n answyddogol yn yr ardal.

Mae'r GAT yn mynd ati'n rhagweithiol i gysylltu â theuluoedd y gwyddys eu bod yn yr ardal ond mae teuluoedd yn cysylltu â'r gwasanaeth hefyd i ofyn am gefnogaeth i gael mynediad i addysg ar gyfer eu plant. Eu nod yw cefnogi mynediad i addysg i sipsiwn a theithwyr drwy gydol eu bywyd ysgol, hyrwyddo eu cynhwysiad a chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'u hanes a'u hunaniaeth ddiwylliannol. Eu nod yw nodi rhwystrau i ddysgu a'u dileu, darparu cefnogaeth i ddisgyblion a rhieni sy'n sipsiwn ac yn deithwyr ac i'r ysgolion maent yn mynd iddynt, a chynyddu presenoldeb a chyrhaeddiad lle bynnag y bo modd.

Anogir plant a phobl ifanc sy'n sipsiwn ac yn deithwyr fynd i'w hysgol ddalgylch leol lle gellir gwneud trefniadau i sicrhau bod cefnogaeth benodol ar waith i alluogi dysgwyr unigol dderbyn cwricwlwm llawn y gall fod angen proses integreiddio raddol ar ei gyfer.

 

5.3 Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yw'r Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Sylfaenol yn yr ardal ac mae'n cynnig yr un lefel o wasanaeth i sipsiwn a theithwyr ag ydyw i aelodau eraill o'r gymuned sefydlog.

Mae gan sipsiwn a theithwyr rai o'r canlyniadau iechyd gwaethaf o unrhyw grŵp ethnig, ac maent yn aml yn cael problemau wrth gael mynediad i wasanaethau iechyd a lles gan gynnwys cofrestru gyda meddygfeydd meddygon lleol. Mae hyn yn broblem benodol gyda'r sipsiwn a'r teithwyr hynny nad oes ganddynt safle parhaol ac sy'n dibynnu ar wersyllfannau diawdurdod yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y ffaith hon ac yn 2015 lluniwyd strategaeth ganddi o'r enw 'Teithio at Iechyd Gwell'3 i geisio mynd i'r afael â'r problemau hyn. Mae'r Ymddiriedolaeth GIG hefyd yn gweithio'n agos gyda'r gymuned sipsiwn a theithwyr i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn.

Mae Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y cyngor yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl ddiamddiffyn yn y gymuned y mae angen cefnogaeth, gofal neu amddiffyniad arnynt ac yn credu y dylid cynnal annibyniaeth person yn ei gartref o ddewis lle bynnag y bo modd. Gwneir ymdrechion i sicrhau bod gwasanaethau'n ddiwylliannol sensitif ac yr un mor hygyrch i sipsiwn a theithwyr.

Mae tîm Lles Oedolion y Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu cefnogaeth i oedolion sy'n gymwys am help y mae ganddynt anghenion brys.

Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo lles plant o bob cymuned yn Ninas a Sir Abertawe, gan gynnwys sipsiwn a theithwyr. Byddant yn gwneud hyn yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a (Llesiant)Cymru 2014, Deddf Plant 1989 a 2004 a deddfwriaeth berthnasol arall.

Eu nod yw cefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd pryd bynnag y mae hyn orau ar gyfer y plentyn ac yn ddiogel iddo. Mae sicrhau bod y plentyn yn ddiogel yn flaenoriaeth allweddol.

Mae'r gwasanaeth yn cefnogi ac yn gweithio gyda'r teuluoedd hynny â phlant dan 18 oed sydd â'r angen mwyaf.Er enghraifft:

  • Plant anabl
  • Rhieni y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i'w helpu i ofalu am eu plant yn ddiogel
  • Plant a phobl ifanc sydd wedi eu hesgeuluso, eu niweidio neu eu hecsbloetio'n rhywiol neu mewn perygl o gael eu hesgeuluso, eu niweidio neu eu hecsbloetio'n rhywiol.
  • Plant a phobl ifanc sydd mewn trafferth gyda'r heddlu

Weithiau gwybodaeth, cyngor a chymorth yw'r unig bethau y mae eu hangen; gallai hyn fod gan ein gwasanaeth ni neu gan wasanaethau yn y gymuned a/neu gyda chefnogaeth ffrindiau, teulu neu rwydweithiau cefnogaeth eraill. Mewn rhai amgylchiadau, mae dyletswydd gyfreithiol i weithredu; er enghraifft, lle mae gwasanaeth yn poeni bod plentyn wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu mewn perygl o hynny.Os yw'n ymddangos bod angen neu ofyniad i'r gwasanaethau teuluoedd a phlant ymwneud â phlentyn, bydd gweithiwr cymdeithasol fel arfer yn ymweld â'r teulu. Byddant yn siarad am bryderon, yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y mae angen iddo ddigwydd nesaf, gan gynnwys pa help a chefnogaeth y gall fod eu hangen.Os oes pryder bod plentyn yn cael, wedi cael, neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, bydd angen ymchwiliad amddiffyn plant hefyd. Lle caiff plentyn ei gefnogi gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, bydd ganddo Gynllun Gofal a Chefnogaeth.

 

5.4      Tai

Mae gan sipsiwn a theithwyr yr un hawliau i'w hanghenion tai gael eu hasesu ac yna'u diwallu ag unrhyw breswylydd arall. Heblaw am y gofyniad i gynnal asesiad o anghenion llety cyffredinol i sipsiwn a theithwyr, mae'n debygol, yn ôl diffiniad, y bydd y rhai sy'n byw ar wersyllfannau diawdurdod nad oes ganddynt unrhyw le cyfreithiol i fynd iddo, yn ddigartref yn statudol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Mae'r awdurdod yn ymdrechu i ymweld â'r holl wersylloedd diawdurdod i bennu anghenion tai a gwirio pa gymorth ychwanegol y gall fod ei angen. Efallai na fydd anghenion tai yn llety brics a morter traddodiadol.

Byddai angen i unrhyw sipsi neu deithiwr sydd am fyw ar safle awdurdodedig y cyngor lenwi ffurflen gais a bod yn destun asesiad perthnasol.

 

5.5 Defnydd Tir a Chynllunio

5.5.1 Darparu Safleoedd

Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn darparu un safle awdurdodedig i sipsiwn a theithwyr yn Heol Tŷ Gwyn, Llansamlet. Rheolir y safle gan y Gwasanaeth Tai ac mae ganddo saith llain barhaol ar loriau caled, y darperir cyfleusterau hanfodol megis dŵr, dull gwaredu carthffosiaeth, trydan a chasglu gwastraff i bob un ohonynt. Mae gan breswylwyr ar y safle hwn drwyddedau'n unol â chyfres safonol o amodau ac maent yn llofnodi cytundebau i breswylio ar lain yn unol â chyfres safonol o amodau, y maent yn atebol i dalu rhent a Threth y Cyngor amdanynt. Mae hyn yn cydymffurfio â Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 sy'n darparu amddiffyniadau ychwanegol i'r rhai sy'n byw ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yr awdurdod lleol ac yn eu rheoli.

Mae gan y cyngor un gwersyllfan a oddefir ar dir a gynhelir gan y cyngor, y mae un teulu estynedig yn preswylio yno a chanddynt gysylltiadau sefydledig â'r ardal. Darperir cyfleusterau hanfodol ar y safle hwn ac mae'r preswylwyr yno wedi llofnodi Côd Ymddygiad.

Mae'r cyngor yn cydnabod bod mwy o garafanau sipsiwn a theithwyr yn yr ardal leol nag sydd o fannau awdurdodedig iddynt aros. Yn ogystal â theuluoedd sipsiwn a theithwyr arbennig a chanddynt gysylltiadau hen sefydledig â'r ardal, mae sipsiwn a theithwyr eraill sy'n mynd drwy'r ardal yn achlysurol. Ar hyn o bryd, nid oes darpariaeth ar gyfer safleoedd tramwy na mannau aros yn DASA.

Mae'r cyngor, wrth roi sylw dyladwy i'r nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, yn cydnabod y bydd gwersyllfannau diawdurdod o bryd i'w gilydd. Ar ben hynny, mae disgwyliad cynyddol gan y llysoedd ac asiantaethau eraill y dylai darpariaeth safleoedd amgen fod ar gael pan ystyrir troi pobl allan o safleoedd diawdurdod.

Mae'r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr diweddaraf gan y cyngor wedi nodi bod angen lleiniau parhaol ychwanegol yn y ddinas a'r sir. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Adnau wedi nodi safle er mwyn darparu mwy o leiniau, ac mae'r cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu darpariaeth yn y dyfodol i Sipsiwn a Theithwyr i gydymffurfio â goblygiadau statudol.

Adeg ysgrifennu'r ddogfen hon, cyflwynodd y cyngor y CDLl i Weinidogion Llywodraeth Cymru i'w archwilio'n annibynnol. Bydd sesiwn gwrandawiad ffurfiol yr archwiliad yn ystyried cynnwys y cynllun ac yn ymdrin â'r sylwadau ar y CDLl Adnau a wnaed yn briodol yn ystod y broses ymgynghori cyhoeddus, gan gynnwys y sylwadau hynny a wnaed gan y gymuned Sipsiwn a Theithwyr am y ddarpariaeth safle arfaethedig. Wrth gwblhau'r archwiliad, bydd yr arolygwr yn cyflwyno adroddiad i'r cyngor a fydd yn rhoi argymhellion ar gyfer gweithredu y bydd yn orfodol i'r cyngor eu cyflawni.

Bydd unrhyw gais/geisiadau cynllunio yn y dyfodol, boed ar dir preifat neu dir y cyngor, yn cael ei asesu'n llawn yn unol â meini prawf a bennwyd yn y Cynllun Datblygu.

 

5.5.2 Gwersyllfannau Diawdurdod

Gall gwersyllfannau diawdurdod gael eu sefydlu gan sipsiwn a theithwyr sefydledig a thros dro am nifer o resymau, a'r rheswm pennaf yw bod diffyg safleoedd a mannau aros awdurdodedig.

Nid yw'r cyngor yn cydoddef gwersyllfannau diawdurdod a sefydlir gan sipsiwn a theithwyr. Fodd bynnag, pan fydd hyn yn digwydd o bryd i'w gilydd, dilynir arweiniad Llywodraeth Cymru.

Ymdrinnir â phob gwersyllfan fesul achos, ond mae'r canlynol yn opsiynau gweithredu:

  • Opsiwn 1 - 'Goddef' y preswylwyr sipsiwn a theithwyr, am amser byr, nes y deuir o hyd i safle amgen neu nes iddynt symud o safle o'u gwirfodd;
  • Opsiwn 2 - Dod o hyd i safle amgen, hyd yn oed os yw hyn dros dro, a chynnig y cyfle i sipsiwn a theithwyr symud yno.
  • Opsiwn 3 - Fel dewis olaf, gall y cyngor geisio meddiannu'r safle maent yn preswylio arno, a chael meddiant ohono, drwy achosion troi allan.

Mae'r cyngor yn cydnabod canllawiau Llywodraeth Cymru sef nad oes modd cyflawni camau gorfodi effeithiol a chyfiawnadwy yn erbyn gwersyllfannau diawdurdod heb ddarpariaeth ddigonol a phriodol.

Bydd y Swyddog Cysylltu â Sipsiwn a Theithwyr, sy'n gweithredu fel pwynt cyswllt unigol ar gyfer y cyngor, yn casglu cymaint o wybodaeth â phosib am unrhyw wersyllfannau diawdurdod ac yn ymweld â'r safle o fewn 24 awr, os yw hynny'n rhesymol ymarferol bosib. Bydd yn cysylltu â chydweithwyr yn y cyngor a chyda phartneriaid i sicrhau bod yr asesiadau lles perthnasol yn cael eu cynnal, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol.

Ar ôl yr ymweliadau ac wedi i'r asesiadau perthnasol gael eu cynnal, gwneir penderfyniad ynghylch a ddylid goddef gwersyllfan diawdurdod neu a ddylid cychwyn ar broses troi allan.

Mae'n rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch camau gweithredu ystyried Deddf Hawliau Dynol 1998 a dyletswyddau o dan Ddeddf Tai 2004 a Deddf Cydraddoldeb 2010, ynghyd ag ystyried anghenion plant a phobl ifanc dan 18 oed yn llawn, yn ogystal ag ystyried rhwymedigaethau'r awdurdod dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae'n rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir i droi sipsiwn a theithwyr allan fod yn rhesymol ac yn gymesur, ac ystyried yr amgylchiadau. Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol benderfynu a yw ymyrryd ym mywyd cartref, preifat a theuluol sipsiwn neu deithiwr yn gyfiawnadwy ac yn gymesur.

 

5.5.3 Datblygiadau Diawdurdod

Ceir datblygiad diawdurdod pan fydd defnydd preswyl o safle'n dechrau heb ganiatâd cynllunio. Efallai bydd sipsiwn a theithwyr yn berchen ar y tir yn breifat, a bydd ganddynt ganiatâd cynllunio i breswylio ar eu tir eu hunain neu efallai fod ganddynt ganiatâd y perchennog i fod yno neu fyw yno'n barhaol. Bydd y cyngor yn ymdrin â datblygiadau diawdurdod yn unol â chyfraith gynllunio.

Gall y cyngor roi caniatâd cynllunio yn unol ag unrhyw gais ôl-weithredol y gellir ei gyflwyno i barhau â'r defnydd o ddatblygiad diawdurdod yn barhaol neu dros dro; neu os nad oes gobaith rhesymol y caiff caniatâd cynllunio ei roi, gall roi hysbysiad gorfodi a/neu hysbysiad atal i wneud iawn am y niwed a achoswyd. Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi ar ôl i'r cyfnod cydymffurfio ddod i ben yn drosedd, a bydd gan y cyngor bŵer i erlyn a/neu weithredu'n uniongyrchol fel sy'n ofynnol i sicrhau cydymffurfio.

Mae hawl gan sipsiwn a theithwyr sy'n byw ar ddatblygiadau diawdurdod i wasanaethau iechyd ac addysg yn yr un modd ag unrhyw aelod arall o'r gymuned sefydlog sy'n byw yn DASA.

 

6. Monitro ac Adolygu'r Polisi

Bydd y cyngor yn monitro'r polisi hwn yn rheolaidd i werthuso ei berthnasedd a'i effeithiolrwydd parhaol. Bydd hyn yn cynnwys monitro yn erbyn deddfwriaeth ac arweiniad statudol presennol ac arfaethedig sydd o bosib yn effeithio ar sipsiwn a theithwyr.

Fel gyda pholisïau corfforaethol eraill, mae proses Asesiad Effaith Cydraddoldeb y cyngor yn amlygu unrhyw arferion gwahaniaethol posib neu rai annheg eraill.

Bydd y polisi hwn yn galluogi gweithwyr y cyngor i ddeall eu rhwymedigaethau a'u cyfrifoldebau i hyrwyddo gwasanaethau a'u darparu mewn ffordd deg i holl aelodau'r gymuned.

Mae gofyn i staff allweddol sy'n gweithio gyda sipsiwn a theithwyr ymgymryd â hyfforddiant ynghylch gweithio'n effeithiol â'r gymuned.

 

7. Sylw dyladwy i erthyglau/hawliau CCUHP 

Yn 2014, penderfynodd y cyngor fod yn rhaid i'r holl fentrau yr ymgymerir â hwy yn ei enw gael eu datblygu gan roi sylw dyladwy i'r hawliau a gorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae'r CCUHP wedi'i ymgorffori ym mhroses Asesu Effaith Cydraddoldeb (AEC) bresennol y cyngor. Mae'r broses hon hefyd wedi'i hymgorffori yn y protocol adrodd corfforaethol. Bydd DASA yn asesu budd pennaf y plant sy'n byw yno wrth ystyried gwersyllfannau diawdurdod, a dylai glynu wrth CCUHP fod yn ffactor allweddol wrth benderfynu ar y camau nesaf.

Mae cynnal asesiadau lles, ar y cyd â sipsiwn a theithwyr, gan gynnwys plant, yn rhan hanfodol o'r broses y gall awdurdodau cyhoeddus ddangos bod eu gweithredoedd yn cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol drwyddi. Gall hyn gael ei ddefnyddio hefyd i ddangos bod hawliau plant yn cael eu hystyried.

 

8. Geirdaon

Cynllun Plant a Phobl Ifanc Dinas a Sir Abertawe

Cynllun Cyflawni Cydlyniant Cymunedol Dinas a Sir Abertawe Cynllun Cydraddoldeb Strategol Dinas a Sir Abertawe 2016 - 2020 Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Dinas a Sir Abertawe Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe

Cynllun Datblygu Unedol Dinas a Sir Abertawe Deddf Cydraddoldeb 2010

Deddf Tai 1996 Deddf Tai 2004

Deddf Tai (Cymru) 2014 Deddf Hawliau Dynol 1998

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflawni ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr -Llywodraeth Cymru (2010)

Cylchlythyr 30/2007 Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2007): Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafanau Sipsiwn a Theithwyr

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) - Cymru'n Cyd-dynnu: Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru

Canllawiau ar Reoli Gwersylla Diawdurdod Llywodraeth Cymru (2013)

Teithio i Ddyfodol Gwell, Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru (2013)

Teithio at Iechyd Gwell, Llywodraeth Cymru (2015)

 

Close Dewis iaith