Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiectau teithio llesol cyfredol

Dyfarnwyd cyllid grant i'r prosiectau hyn o'r gronfa teithio llesol i'w datblygu neu eu cyflawni.

Man cycling in red top (Grovesend to Pontarddulais).

Mae ein cynlluniau wedi'u rhannu'n ddau gategori:

  1. Prif gynlluniau - mae'r cynlluniau hyn wedi derbyn cyllid a byddant yn cael eu hadeiladu eleni, yn amodol ar gymeradwyaeth.
  2. Cynlluniau sy'n cael eu datblygu - cynlluniau arfaethedig yw'r rhain sydd ar gam cynharach astudiaethau dichonoldeb, dylunio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Gan ddibynnu ar ei gymhlethdod neu faint, gall cynllun gael ei ddatblygu am sawl blwyddyn cyn ei fod ar gam lle'r ydym yn barod i wneud cais am 'brif' gyllid i adeiladu'r llwybr newydd.

'Prif' gynlluniau sy'n cael eu cyflwyno

Cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gyfer y blynyddoedd i ddod

 

'Prif' gynlluniau sy'n cael eu cyflwyno

Walter Road a Sketty Road - Cam 1

Mae Walter Road a Sketty Road yn brif lwybr sy'n cysylltu cymunedau Sgeti ac Uplands â chanol y ddinas a thu hwnt. Byddwn yn adeiladu lôn feicio bwrpasol 2 gilomedr o hyd ar hyd ochr ddeheuol y ffordd. Bydd beicwyr yn gallu parhau i ganol y ddinas drwy Page Street.

Mae'r ffeiliau PDF isod yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynigion drafft ar gyfer pob rhan o'r llwybr, gan gynnwys mapiau a chynlluniau ynghylch sut y gallai'r cynllun ffordd arfaethedig edrych.

Mae'r llwybr wedi'i rannu'n dair rhan.

Sylwer bod meintiau'r ffeiliau hyn yn fawr - ystyriwch eu lawrlwytho pan fyddant wedi'u cysylltu â Wi-Fi, yn hytrach nag edrych yn uniongyrchol arnynt ar-lein.

Gwahoddwyd aelodau'r cyhoedd, preswylwyr a busnesau i gyflwyno sylwadau ar y cynigion amlinellol yn ystod y cyfnod ymgynghori rhwng 9 Ionawr a 4 Chwefror 2024.

Mae sylwadau ac adborth a dderbyniwyd o'r ymgynghoriad hwn wedi helpu i lywio a mireinio dyluniad y llwybr. Caiff y cynllun ei gyflwyno dros dair blynedd ariannol. Yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth, rydym yn gobeithio dechrau gwaith adeiladu Cam 1 ar ddiwedd haf 2024, sef y rhan ar Walter Road o Page Street i St James' Crescent. Bydd camau 2 a 3 drwy Uplands a thuag at Sgeti yn cael eu hadeiladu yn y blynyddoedd dilynol.

 

Cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gyfer y blynyddoedd i ddod

Comin Clun

Bydd y llwybr defnydd a rennir newydd hwn yn rhedeg ar hyd ochr ddeheuol y B4436 dros Gomin Clun, rhwng y Mayals a Llandeilo Ferwallt. Mae e' tua 2.5km o hyd a bydd yn 3m o led. Bydd yn darparu llwybr oddi ar y ffordd a fydd yn cysylltu Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt â llwybr Mayals a adeiladwyd yn ddiweddar, gan alluogi pobl sy'n byw yn ardaloedd Llandeilo Ferwallt a Murton i gael mynediad at y rhwydwaith teithio llesol ehangach i'r Mwmbwls, Abertawe a thu hwnt drwy Lwybr Beicio Cenedlaethol 4.

Cyswllt Pontarddulais

Mae'r cynllun hwn yn cynnwys nifer o ymyriadau sy'n cael eu cyflwyno dros sawl blwyddyn, a bydd yn cysylltu tref Pontarddulais â'r rhwydwaith teithio llesol presennol, ac yn hwyluso teithiau i Sir Gaerfyrddin, sy'n ffinio â Phontarddulais, ac oddi yno. 

Bydd llwybrau'n cysylltu ardaloedd preswyl allweddol Pontarddulais ag ysgolion, gorsaf drenau Pontarddulais, cyfleusterau hamdden, unedau manwerthu ac i'r de drwy'r coridor teithio llesol newydd sy'n ymuno â gweddill rhwydwaith Abertawe. 

Eleni bydd darn 350m o lwybr defnydd a rennir yn cael ei adeiladu rhwng Bolgoed Road a Bryniago Road, yn amodol ar dderbyn caniatâd priodol.

Penlle'r-gaer i Dircoed

Ar hyn o bryd mae cymuned Tircoed wedi'i hynysu oherwydd y toriad a achoswyd gan draffordd yr M4 sy'n cyfyngu mynediad at ganolfannau cyflogaeth a chyfleusterau manwerthu sydd wedi'u lleoli i'r de. Er mwyn cynnig cysylltedd ehangach ac ehangu cyfleoedd ar gyfer teithiau teithio llesol, mae'r cynllun hwn yn bwriadu cyflwyno cyswllt newydd sy'n cysylltu â llwybr Penlle'r-gaer i Fforest-fach. Bydd y cyswllt newydd hwn hefyd yn gwella cysylltiadau teithio llesol i'r dwyrain a'r gorllewin drwy gysylltu â'r llwybr defnydd a rennir ar yr A48 a thuag at Gorseinon.

Casllwchwr i Dregŵyr

Cynigir llwybr a rennir 3m o led newydd i gerddwyr a beicwyr i gysylltu Tregŵyr â Llwchwr, tua 2km o hyd, i wella cysylltedd rhwng y ddwy gymuned sy'n profi toriad a achosir gan yr A484. Bydd y llwybr yn darparu mynediad i Ganolfan Hamdden Elba, Canolfan Feddygol Tregŵyr, Tesco Express, dwy eglwys a maes gwersylla Clwb Carafannau a Chartrefi Modur.

Bydd y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno ar draws dau gam. Bydd Cam Un yn cynnwys rhan ddeheuol y llwybr o Dregŵyr. Bydd yn cychwyn o Ffordd Beck (wrth fynedfa Cyfadeilad Chwaraeon Elba) a bydd yn pasio'r caeau chwarae ac yn ymuno â Pont Y Cob Road, lle bydd yn parhau i Bont yr Ynys. Bydd Cam Dau yn cynnwys disodli Pont yr Ynys bresennol sydd ag un lôn a pharhau ar hyd Culfor Road a chysylltu â Llwchwr.

Pen-clawdd i Dregŵyr

Mae'r cynllun hwn yn ceisio cwblhau cyswllt coll mewn darpariaeth teithio llesol rhwng cymunedau Pen-clawdd a Thregŵyr ar hyd y B4295, lle mae'n rhaid i gerddwyr ddefnyddio troedffordd gul ar hyn o bryd, tra bod yn rhaid i feicwyr ailymuno â ffordd gerbydau. Bydd y cynllun hwn yn gwella opsiynau teithio llesol i breswylwyr Pen-clawdd, gan ddarparu cysylltedd â Thregŵyr a chynnig mynediad ehangach i'r rhwydwaith teithio llesol drwy Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd y cynllun hefyd yn galluogi mwy o fynediad i ardal Gŵyr.

Newton i'r Mwmbwls

Nod y cynllun hwn yw gwella'r ddarpariaeth cerdded a beicio i bobl sy'n byw yn y Mwmbwls ac yn ymweld â'r pentref, drwy ddarparu llwybr sy'n cysylltu ardal Newton drwy'r Mwmbwls i lan y môr, drwy Barc Underhill. Bydd y cynllun yn darparu gwell mynediad i siopau ac Ysgol Gynradd Ystumllwynarth.

Gwelliannau Eaton Road

Mae angen y cynllun hwn i wella'r isadeiledd teithio llesol ar goridor trafnidiaeth Eaton Road / y B4489 Llangyfelach Road. Y bwriad fydd darparu cysylltiad o ansawdd uchel rhwng y llwybrau defnydd a rennir a wellwyd yn flaenorol ar Cwm Road a Penfilia Terrace. Mae Eaton Road yn ardal Brynhyfryd, Abertawe, tua 2km o ganol y ddinas, ac mae'n cynnwys tai teras niferus yn bennaf.

Clasemont Road

Mae'r cynllun hwn yn 1.9km o hyd a bydd yn gwella cysylltedd rhwng prif adeilad y DVLA a chanol Treforys, trwy goridor trafnidiaeth Clasemont Road / Pentrepoeth (yr A48).
  
Yn adeilad y DVLA (o Long View Road) bydd y cynllun yn cysylltu â llwybr defnydd a rennir presennol ar Clasemont Road a gyflwynwyd yn ystod 2021-22. Yn Nhreforys, bydd y llwybr yn cysylltu'n uniongyrchol â llwybr defnydd a rennir di-draffig presennol.

Bydd y cynllun yn gwella cysylltedd strategol rhwng y dwyrain a'r gorllewin rhwng cymunedau Llangyfelach a Threforys. Bydd hefyd yn gwasanaethu'r DVLA, cynhyrchydd teithiau allweddol yn yr ardal.

Coridor Glannau afon Tawe

Mae'r cynllun hwn yn cynnig adeiladu llwybr defnydd a rennir 3-4m ar hyd glan orllewinol afon Tawe, o'r llwybr presennol ger Coles Close i Waith Copr yr Hafod, drwy'r isadeiledd presennol yn natblygiad 'True Student'. Bydd y cynllun hwn yn cyflwyno llwybr a rennir newydd 1.4km o hyd i gerddwyr a beicwyr i fynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth bresennol. Byddai'r cynllun yn cysylltu'r ardal fasnachol fawr o amgylch Stadiwm Swansea.com a pharc manwerthu'r Morfa â chanol y ddinas.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Gorffenaf 2024