Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Diogelu oedolion - pryderi am gam-drin posibl?

Beth dylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod oedolyn diamddiffyn mewn perygl o gael ei gam-drin.

Beth yw ystyr diogelu?

Mae Diogelu Oedolion yn derm sy'n cael ei ddefnyddio i esbonio sut mae asiantaethau (fel yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd) yn ogystal â'r cyhoedd cyffredinol yn gweithio gyda'i gilydd i gadw oedolion diamddiffyn yn ddiogel rhag perygl niwed neu gam-drin.

Oedolyn diamddiffyn yw rhywun sydd angen gwasanaethau gofal cymdeithasol neu rywun a all fod eu hangen o ganlyniad i anabledd meddwl neu arall, henaint neu salwch, nad ydynt yn gallu gofalu am eu hunain neu i'w diogelu rhag niwed neu ecsbloetio.

Mae gan bawb gyfrifoldeb i sicrhau nad yw cam-drin yn digwydd.  Os ydych yn ymwybodol neu'n drwgdybio bod rhywun rydych yn ei adnabod yn cael ei gam-drin dylech ddweud ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn i rywbeth allu gael ei wneud amdano.

Beth yw ystyr cam-drin?

Ystyr cam-drin yw cael eich trin yn wael.  Gallai fod o ganlyniad i weithred neu beidio ag ymddwyn yn addas.  Mae'n cynnwys cam-drin corfforol, cam-drin ariannol neu faterol, cam-drin rhywiol, cam-drin seicolegol ac esgeulustod.  Gallai fod yn weithred unigol neu'n weithred a ailadroddir.

Pwy all gam-drin rhywun?

Gall cam-drin ddigwydd mewn unrhyw berthynas - personol, proffesiynol neu sefydliadol. 

Gall rhywun sy'n cam-drin fod yn aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog. 

Gall fod yn rhywun sy'n cael eu talu i gyflwyno gwasanaeth gofal neu wasanaethau proffesiynol eraill, gweithiwr iechyd neu rywun sy'n gweithio'n wirfoddol.

Gallant hefyd fod yn bobl sy'n gyfeillgar ag oedolion diamddiffyn er mwyn iddynt ymddiried ynddynt er mwyn eu hecsbloetio neu eu cam-drin. 

Mewn sefyllfa sefydliadol, megis cartref gofal neu wasanaeth dydd, gall y cam-drin fod gan rywun sy'n gweithio yno neu rywun arall sy'n byw yn y gwasanaeth neu sy'n ei ddefnyddio.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n poeni am rywun?

Mae diogelu'n gyfrifoldeb i bawb.  Os ydych chi'n drwgdybio bod cam-drin neu esgeulustod yn digwydd, dylech adrodd am eich pryderau. Ni ddylech anwybyddu eich pryderon neu dybio y bydd rhywun arall yn adrodd am y cam-drin.

Mae'r arwyddion posib o gam-drin neu esgeulustod yn cynnwys:

  • anaf heb eglurhad
  • arwyddion o ofn neu ofid
  • cilio
  • arwyddion o esgeulustod
  • eiddo personol ar goll
  • anallu sydyn neu anesboniadwy i dalu biliau.

Os yw'r person mewn perygl enbyd dylech sicrhau yn gyntaf ei fod yn ddiogel, a chysylltu â'r gwasanaethau brys os oes angen.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n poeni am fy hunan?

Os ydych yn teimlo y gallwch, eich bod yn gallu adrodd am eich pryderon eich hunain.

Fel arall, siaradwch â rhywun y gallwch ymddiried ynddo - aelod o'r teulu, ffrind neu, os ydych yn dymuno, gweithiwr cymdeithasol.  Esboniwch yr hyn rydych yn poeni amdano a pha dystiolaeth sydd gennych er mwyn iddo eich helpu i weithredu'n briodol.

Os ydych yn credu bod trosedd wedi digwydd gallwch gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 01792 465999 neu 101. Mewn amgylchiadau brys, ffoniwch 999.

Beth fydd yn digwydd pe bawn i'n adrodd am rywun i'r Gwasanaethau Cymdeithasol?

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, gelwir hyn yn 'gyfeiriad'. Byddwn yn nodi cynifer o fanylion ag sydd eu hangen arnom i weld a oes angen mynd trwy'r broses ddiogelu neu a fyddai gwasanaeth arall yn well.

Os oes angen i'r cyfeiriad fynd trwy'r broses ddiogelu, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn trefnu ymchwiliad yn unol â Gweithdrefnau a Pholisi Dros Dro Cymru ar gyfer Diogelu Oedolion Diamddiffyn rhag Cam-drin (Yn agor ffenestr newydd).

Gall yr ymchwiliad gynnwys sawl asiantaeth e.e. y gwasanaethau iechyd, yr heddlu a fydd yn gweithio gyda'i gilydd ac yn siarad â phobl sy'n gysylltiedig i gael mwy o wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd a'r hyn yr hoffai'r person sydd wedi cael ei gam-drin ddigwydd. Os oes trosedd wedi digwydd (megis lladrad neu 

gam-drin), bydd yr heddlu yn siarad â'r person sydd wedi cael ei gam-drin i benderfynu a ydynt yn fodlon i'r achos fynd i'r llys.

Os nad oes modd i'r person sydd wedi cael ei gam-drin wneud penderfyniadau am yr hyn ddylai ddigwydd, efallai bod eiriolwr annibynnol, perthynas neu reolwr gofal ganddo i siarad ar ei ran.

Ar ôl yr archwiliad, rhoddir gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod y person yn cael ei ddiogelu yn y dyfodol.  Bydd y weithred yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, ond gallai'r person dderbyn math gwahanol o wasanaeth neu gefnogaeth, neu lys yn cymryd camau cyfreithiol.

Beth os ydw i'n anghywir ac nid oes achos o gam-drin?

Os nad ydych yn siŵr, mae'n well trafod eich pryderon â rhywun sydd â'r profiad a'r cyfrifoldeb i wneud penderfyniad gwybodus yn hytrach nag anwybyddu'r sefyllfa a all arwain at rywun diamddiffyn yn cael ei niweidio.

Sut ydw i'n adrodd am gam-drin honedig?

Cysylltwch â'r Tîm Diogelu Oedolion AdultSafeguardingTeam@abertawe.gov.uk

Os ydych yn credu bod trosedd wedi digwydd gallwch gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 01792 465999 neu 101. Mewn amgylchiadau brys, ffoniwch 999.