Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas yn anelu at barhau i chwifio'r faner ar gyfer diogelwch bywyd nos.

Mae byd bywyd nos Abertawe'n ymgeisio i sicrhau bod y Faner Borffor yn parhau i chwifio dros y ddinas am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

evening drinks purple flag

Mae'n un o ddau le yn unig yng Nghymru sy'n gallu chwifio'r faner, sy'n dangos sut gall ymwelwyr ddisgwyl noson mas ddifyr, amrywiol, diogel a phleserus bob tro. Abertawe oedd y lle cyntaf yng Nghymru i dderbyn yr anrhydedd.

Nawr mae partneriaeth o sefydliadau wedi cyflwyno cais i gynnal statws y Faner Borffor yn 2022. Mae'r cais yn amlygu amrywiaeth eang o resymau pam mai canol y ddinas yw'r lle i fod yn awr ac yn y dyfodol.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth,  "Mae canol dinas Abertawe yn lle bywiog a dichonadwy sy'n ysgogi ymwelwyr i ddod yn ôl yma dro ar ôl tro. Bydd ein rhaglen adfywio gwerth £1 biliwn yn cryfhau ei apêl.

"Rydym yn hynod ffyddiog y byddwn yn cadw statws y Faner Borffor, er nid yw cyflawni'r marc safon yn beth hawdd; mae'r bartneriaeth wedi gweithio'n galed i gadw pobl yn ddiogel drwy'r pandemig - a bydd yn parhau i wneud hynny."

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe (BID), "Mae'r Faner Borffor yn nodi'r gwaith caled mae ein busnesau lletygarwch a chyda'r nos yng nghanol y ddinas yn ei wneud i sicrhau noson mas diogel a phleserus. Rydym yn falch o chwarae ein rhan yn hyn fel BID Abertawe."

Close Dewis iaith