Toglo gwelededd dewislen symudol

Tenantiaid i elwa o fuddsoddiad mewn cartrefi cynhesach

Mae cymunedau ar draws Abertawe wedi bod yn elwa o ddegau ar filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad i helpu i foderneiddio'u cartrefu a'u cadw'n gynnes.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Mae tenantiaid y cyngor o Townhill i Ravenhill a Bôn-y-maen i West Cross wedi cael boeleri sy'n arbed ynni, deunydd i inswleiddio'u cartrefi, toeon, ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd fel rhan o raglen 20 mlynedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) y cyngor.

Bydd y rhaglen foderneiddio uchelgeisiol yn dechrau cam newydd yn y blynyddoedd i ddod wrth i'r cyngor geisio gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud tai cyngor hyd yn oed yn fwy ynni effeithlon ac yn addas ar gyfer dyfodol carbon sero net.

Dywedodd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, fod bywydau tenantiaid wedi cael eu gwella  diolch i ymgyrch y cyngor i wella cartref, torri cost gwresogi a chadw rhenti'n fforddiadwy.

Meddai, "Mae miloedd o gartrefi wedi cael eu gwella mewn cymunedau ar draws Abertawe dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac rydym yn dal wrthi.

"Yn Ravenhill, er enghraifft, rydym wedi gwario £8m yn y blynyddoedd diweddar yn darparu toeon newydd, deunydd i inswleiddio toeon, gwydro dwbl tra effeithlon a cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd.

"Yn y pedair blynedd nesaf, rydym yn bwriadu buddsoddi £7.3m pellach mewn bron 200 o gartrefi yn Ravenhill a fydd yn gwella perfformiad thermol i helpu i gadw'r defnydd o ynni, a'r costau, i lawr.

"Ar adeg pan mae costau ynni a thai'n dringo, mae Cyngor Abertawe yn buddsoddi yn ei gymunedau i helpu tenantiaid i ymdopi."

Ychwanegodd, "Yn ogystal â'n rhaglen ailwampio, rydym hefyd yn adeiladu tai fforddiadwy newydd a fydd bob amser yn dai cyngor i'w rhentu mewn mannau fel West Cross ac mae gennym gynlluniau ar gyfer mwy yn Brokesby Road ym Môn-y-maen ynghyd â chynigion am welliannau yn Tudno Place, Pen-lan."

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023